Mae canolfannau cyrraedd wedi cael eu creu yng ngorsafoedd trên Caerdydd a Wrecsam i helpu ffoaduriaid o Wcráin.
Fel rhan o’r cynllun, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ailwampio ystafelloedd yn y gorsafoedd ac maen nhw’n darparu cyfleusterau megis ardal i blant.
Gall Wcrainiaid sy’n ffoi rhag rhyfel ddefnyddio’r cyfleusterau hyn wrth gyrraedd y dinasoedd, cyn symud ymlaen i ganolfannau croeso Llywodraeth Cymru neu at deulu, ffrindiau, neu noddwyr, meddai Trafnidiaeth Cymru.
Mae’r canolfannau wedi cael cefnogaeth lawn gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae rhoddion wedi cael eu rhoi gan Sainsburys Cymunedol y Coed Duon ym Mhontllan-fraith.
‘Lle diogel a chyfforddus’
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, eu bod nhw’n gweud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r rhai sy’n chwilio am loches.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canolfannau cyrraedd rydyn ni wedi’u creu yn ein prif orsafoedd yng ngogledd a de Cymru o fudd i’r bobl sydd eu hangen,” meddai James Price.
“Fe fyddan nhw’n darparu lle diogel a chyfforddus i’r rheiny sy’n cyrraedd Cymru.”
Ers mis Mawrth, mae pob ffoadur, gan gynnwys rhai o Wcráin, yn cael teithio am ddim ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Mae Cymru’n falch o fod yn Wlad Noddfa ac rwy’n falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi gallu cynnig canolfan i ffoaduriaid o Wcráin gadw’n ddiogel rhag y gwrthdaro ofnadwy hwn, gan roi cyfle iddynt ymlacio a chasglu eu meddyliau cyn symud ymlaen i aros gyda theulu, ffrindiau a noddwyr.”