Mae llwyfan cyfarfodydd ar-lein dwyieithog newydd yn gobeithio herio mawrion y maes.

Mae gan blatfform Haia system sy’n galluogi cyfieithu ar y pryd, ac mae arbenigwyr technoleg iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn rhan o’r datblygiadau ers y dechrau.

Gall unrhyw un ddefnyddio’r llwyfan, a’r nod ers y dechrau oedd bod yn “gynhwysol”, meddai’r sylfaenwyr.

“O’r dechrau roedden ni eisiau datblygu rhywbeth cyfeillgar dwyieithog sy’n gwneud digwyddiadau yn hygyrch i bawb,” meddai Tom Burke, un o’r sylfaenwyr.

“Rydym yn sylweddoli bod llwyfannau cyfarfod ar-lein wedi bod o gwmpas ers tro a’u bod bellach yn rhan o’n bywydau bob dydd.

“Ond roedden ni hefyd yn gwybod beth oedd y diffygion ac yn awyddus i greu system oedd yn gynhwysol.

“Fe wnaethon ni gymryd yr hyn roedden ni wedi’i ddysgu o’r ddwy flynedd ddiwethaf o rwydweithio a chymdeithasu ar lein ac ychwanegu elfen bersonol i’r holl brofiad.”

Technoleg hybrid

Yr wythnos hon, fe wnaeth llwyfan Haia gynnal ei ddigwyddiad hybrid cyntaf wrth lwyfannu Wythnos Arweinwyr Digidol yng Nghymru.

Haia ar waith yn y Senedd

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfranwyr o’r Senedd, rhai o Gaerwen ar Ynys Môn, a chynulleidfa o dros 50 ar-lein.

Bwriad digwyddiad Arweinwyr Digidol oedd tynnu sylw at y gwaith arloesol sy’n digwydd ym maes digidol ar hyd a lled Cymru.

“Roedden ni’n falch iawn o gael y cyfle i gynnal y ddau ddigwyddiad yma. Mae hwn yn gam mawr i ni ac yn garreg filltir bwysig yn natblygiad Haia – braf oedd gweld pobl o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan ac yn defnyddio ein platfform fel hyn,” ychwanega Tom Burke.

Dywedodd Victoria Ford, Cadeirydd Arweinwyr Digidol Cymru, sydd hefyd yn aelod o fwrdd ymgynghorol Haia, fod Wythnos Arweinwyr Digidol Cymru yn “gyfle arbennig” i ddangos potensial Haia.

“Mae Wythnos Arweinwyr Digidol yn ddigwyddiad ledled y Deyrnas Unedig, y mwyaf o’i fath sy’n canolbwyntio ar drawsnewid digidol,” meddai Victoria Ford.

“Roedd yn gyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes arloesi digidol ac roedd yn gyfle arbennig i Haia ddangos yr hyn mae’n gallu gynnig.

“Rydyn ni’n gwybod bod ar-lein yn addas i rai ond mae eraill yn hoffi cyfarfod wyneb yn wyneb – sy’n gwneud technoleg hybrid Haia yn ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau.”