Mae bron i chwarter cynghorau Cymru wedi gwahardd yr arfer o roi anifeiliaid fel gwobrau.

Bro Morgannwg yw’r cyngor diweddaraf i wahodd yr arfer, ond mae RSPCA Cymru yn cynnal ymgyrch yn galw am ddod â’r arfer i ben dros y wlad.

Wrth gyfeirio at yr arfer o roi pysgod aur mewn bagiau plastig yn wobrau mewn ffeiriau, dywedodd yr RSPCA bod yr anifeiliaid yn dioddef yn sgil hynny.

Hyd yn hyn, mae pump o awdurdodau lleol Cymru wedi’i wahardd – Casnewydd, Caerffili, Wrecsam, Conwy, a Bro Morgannwg.

‘Cyfrifoldeb mawr’

Er bod adroddiadau am bysgod yn cael eu cynnig fel gwobrau wedi gostwng yn ystod y pandemig, mae RSPCA Cymru yn poeni y bydd hynny’n newid wrth i ffeiriau ailgychwyn yn iawn eleni.

“Rydyn ni wrth ein boddau bod bron i chwarter awdurdodau lleol Cymru wedi gwahardd yr arfer ar eu tir nhw’n barod – ond bydd RSPCA Cymru yn parhau i ymgyrchu nes mae’r arfer yn perthyn i’r llyfrau hanes,” meddai Chris O’Brien, rheolwr materion cyhoeddus yr elusen yng Nghymru.

“Mae bod yn berchen ar anifail yn gyfrifoldeb mawr – a dylid meddwl cyn cael pysgodyn aur. Mae pysgod aur yn cynhyrfu’n hawdd ac yn aml mae’r pysgod sy’n cael eu rhoi fel gwobrau yn dioddef o sioc, diffyg ocsigen, ac yn marw o newid yn nhymheredd y dŵr, ac mae nifer ohonyn nhw’n marw cyn i’w perchnogion newydd gyrraedd adref hyd yn oed.

“Fel anifeiliaid anwes, maen nhw’n cael eu camddeall – gan eu bod nhw’n gallu bod yn gymdeithion gwych; ond gall fod yn heriol i edrych ar eu holau a rhaid i berchnogion newydd wneud gwaith ymchwil cyn cael y pysgodyn, dim wedyn. Wrth ddod â physgodyn adref am y tro cyntaf, mae hi’n bwysig gosod y tanc o leiaf bythefnos o flaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn, a dydy hyn ddim yn bosib i rywun sy’n ennill pysgodyn heb fod wedi paratoi.”

‘Hollol anaddas’

Dywedodd Ruba Sivagnaman, aelod cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros gysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb a gwasanaethau rheoleiddio: “Mae rhoi anifeiliaid fel gwobrau yn hollol anaddas, ac fel cyngor, rydyn ni’n cefnogi safbwynt yr RSPCA y dylid stopio’r arfer hwn.

“O ran hynny, dydyn ni ddim yn caniatau i unrhyw ddigwyddiad sy’n cynnig anifeiliaid fel gwobr gael eu cynnal ar dir y cyngor.

“Mae’r cyngor yn cymryd llesiant anifeiliaid o ddifrif. Byddwn yn annog pawb i beidio â dod ynghlwm â digwyddiadau lle mae anifeiliaid yn cael eu cynnig fel gwobrau. Ystyriwch ddweud wrth yr RSPCA am y digwyddiad.”

Drwy ymgyrch #NoFunFairAtTheFair, mae’r RSPCA yn gobeithio y bydd mwy o awdurdodau lleol yn gwahardd yr arfer dros yr haf, ac maen nhw’n awyddus i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i basio deddf yn ei wahardd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu yn y maes hwn. Yn ystod tymor hwn y Llywodraeth, byddwn yn cyflwyno ystod eang o bolisïau sy’n adeiladu ar ein safonau lles uchel ar gyfer anifeiliaid sy’n cael eu ffermio, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill a gedwir.

“Gall Awdurdodau Lleol gymryd camau i wahardd rhoi anifeiliaid fel gwobrau mewn digwyddiadau a gynhelir ar dir sy’n eiddo i’r cyngor ac rydym yn ymwybodol bod sawl un eisoes wedi gwneud hynny.”