Y penwythnos hwn (dydd Sadwrn, Gorffennaf 2), bydd taith gerdded ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru mewn cydsafiad gydag ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid, a galw am ddiwedd ar garcharu mewnfudwyr.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth San Steffan basio’r Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau yn gynharach eleni.
Man cychwyn y daith eleni, sydd wedi’i threfnu gan Refugee Tales Cymru, yw Felinheli gan anelu i gyrraedd Gerddi Botaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth.
Syniad gwreiddiol Refugee Tales, sy’n weithredol dros y Deyrnas Unedig, oedd trefnu teithiau ar gyfer pwy bynnag oedd yn dymuno cerdded, a byddai ffoaduriaid yn ymuno â nhw, eglura Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, sy’n cefnogi’r daith.
Roedd y teithiau gwreiddiol yn gyfle i bobol sgwrsio â ffoaduriaid, a dysgu am eu profiadau go iawn, meddai.
“Mae ganddyn nhw griw o bobol frwd yn Arfon sydd eisiau gwneud yr un fath, ac mae’r daith yn Arfon ddydd Sadwrn am fod yn rhywbeth tebyg i drio osgoi’r stereoteipio yma ti’n weld yn y papurau newydd a llenwi ychydig ar y bylchau o ran be oedd eu profiad go iawn nhw,” meddai Hywel Williams, oedd wedi gobeithio ymuno â’r daith ond fydd yn methu â gwneud hynny oherwydd ymrwymiadau eraill.
Bydd Carolyn Thomas, Aelod o’r Senedd Llafur Gogledd Cymru, yn ymuno â’r daith.
‘Wyneb dynol ar brofiadau ffoaduriaid’
Drwy’r Refugee Tales, mae awduron wedi bod yn cydweithio â cheiswyr lloches, ffoaduriaid a phobol sy’n cael eu carcharu am gyfnodau amhenodol o amser i rannu eu straeon.
Gan ddefnyddio cerdd Chaucer, ‘Canterbury Tales’, fel model, mae’r awduron yn adrodd cyfres o straeon wrth iddyn nhw gerdded a chydsefyll â ffoaduriaid, ac mae’r mudiad wedi cyhoeddi dau lyfr yn seiliedig ar y straeon.
“Dw i’n meddwl bod y daith yn ffordd dda iawn o roi wyneb dynol, neu go iawn, ar brofiad go iawn ffoaduriaid,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.
“Mae’n arwyddocaol bod y mwyafrif o ffoaduriaid sydd yn cyrraedd Prydain yn hawlio lloches yn llwyddiannus, neu’n llwyddiannus ar apêl, sydd yn profi’n wrthrychol yn y llysoedd bod eu hachosion nhw’n rhai cyfiawn.
“Mae’r ddelwedd yma o geiswyr lloches a ffoaduriaid fel pobol sydd ond yma i elwa ar fyw ym Mhrydain yn llwyr gamarweiniol.
“Yn ail beth, mae’n cyfrannu at ein hymdrech ni yng Nghymru i fod yn wlad o loches, ac yn sicr yng Ngwynedd ein bod ni’n sir o loches, lle rydyn ni’n gweld ffoaduriaid fel pobol, nid fel ryw ddelweddau dychrynllyd ar dudalennau blaen rhai papurau.”
‘Dibrisio pobol’
Mae angen “gwrthweithio” agwedd “ffiaidd” Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at ffoaduriaid, meddai Hywel Williams.
“Yn sicr, gogwydd Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] ers blynyddoedd ydy i beidio bod yn lloches, i beidio rhoi croeso, i feithrin awyrgylch o ‘hostility’ ar adeg pan mae’r llywodraeth yn Llundain yn weithredol yn trio gwrthod ceiswyr lloches – mae eisiau gwrthweithio hynny,” meddai.
“Mae agwedd yr Ysgrifennydd Cartref presennol, Priti Patel, yn arbennig o ffiaidd, ac yn bennaf oll yn yr wythnosau diwethaf yma o ran y cynllun ffiaidd yma i allfudo pobol i Rwanda… mae hwnnw’n atgas o beth.
“Dw i’n meddwl bod y rhan fwyaf o bobol yn gweld drwyddo fo, ac yn gweld mai be ydy o ydy ryw sioe i dynnu i ffwrdd oddi wrth broblemau eraill y llywodraeth yma. Mae’r niferoedd maen nhw’n sôn amdano fo’n gymharol fychan, ond mae’r gwariant am fod yn enfawr a’r effaith, dw i’n meddwl, yn y pendraw am fod yn fach iawn, iawn.
“Dydy o ddim yn ateb o gwbl, ac mae o’n dibrisio pobol sydd wedi ffoi am eu bywydau, yn aml o wladwriaethau lle mae yna orthrwm eithafol – rydyn ni’n sôn yn fan hyn am wledydd fel Affganistan ac Iran a Syria, pobol sydd â hawl, dw i’n meddwl, i loches ac i’n cymorth ni.”
- Bydd y daith yn dechrau am 11yb ddydd Sadwrn (Gorffennaf 2) dros ffordd i dafarn Garddfon yn y Felinheli, ac mae angen cofrestru ar EventBrite.
- Bydd cyfle ar y daith i glywed gan arbenigwyr ym mywyd adar gwyllt a phlanhigion y Fenai a Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor, bydd gan Palas Print stondin lyfrau a bydd cerddoriaeth gan Neil a Meg Browning.