Mae galwadau o’r newydd am sefydlu uned mamau a babanod yn y gogledd, wedi i’r mater gael ei godi yn y Senedd.
Gwnaeth Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian, yr alwad wrth i uned mamau a babanod Ysbyty Tonna ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe droi’n flwydd oed.
Mae Uned Gobaith yr ysbyty yn darparu gofal iechyd meddwl amenedigol arbenigol i deuluoedd, a chynhaliwyd digwyddiad ddoe (Mehefin 27) i ddathlu’r garreg filltir.
Bwriad Blwyddyn o Uned Gobaith oedd trafod datblygiad yr uned, ei llwyddiannau, a’r heriau, ond mae Siân Gwenllian yn honni bod diffyg cydraddoldeb sylfaenol yn y ddarpariaeth ar gyfer mamau tu hwnt i’r de.
‘Angen gweithredu’
Wrth rannu ei phryderon yn y Senedd, gofynnodd i’r Prif Weinidog am ddiweddariad ar wasanaethau i gefnogi menywod y gogledd sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol.
Ymatebodd Mark Drakeford drwy ddweud bod buddsoddiad rheolaidd o £3m wedi galluogi byrddau iechyd ledled Cymru i ddatblygu timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol.
Ond mae Siân Gwenllian wedi dweud bod y ddarpariaeth bresennol yn annigonol, gan dynnu sylw at y ffaith bod un ymhob pedair merch yn gallu datblygu problemau iechyd meddwl amenedigol.
“Dw i felly’n bryderus, ar ran mamau yn fy etholaeth i, ac ar draws y gogledd, does yna ddim mynediad at uned arbenigol yn agos at gartref i’r mamau rheini,” meddai.
“A wnewch chi ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth arbenigol mewn man addas?
“Mae angen gweld gweithredu.”
‘Annerbyniol’
Mae Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant Cymru, wedi cadarnhau bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr ynghylch sefydlu uned yng ngogledd orllewin Lloegr, a fyddai’n gwasanaethu mamau gogledd Cymru a gogledd Powys.
“I lawer o fenywod yng Nghymru, nid yw gogledd orllewin Lloegr yn lleoliad ‘agos i adref’,” meddai Siân Gwenllian wrth ymateb i’r awgrym.
“A sut bydd yr uned yn gallu darparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?
“Byddaf yn aros am fwy o eglurder ynghylch yr awgrym hwn, ond mae’n ymddangos braidd yn chwerthinllyd disgwyl i fenywod sy’n dioddef problemau iechyd meddwl difrifol deithio’n bell dros y ffin gyda’u babanod, a byddai peidio â chael darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gwbl annerbyniol.”
‘Llawer o waith’
Wrth ymateb i bryderon cychwynnol Siân Gwenllian, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn deall ei phwyntiau.
“Mae llawer o waith wedi’i wneud eisoes gan y pwyllgor gwasanaethau arbenigol ar y mater hwn,” meddai’r Prif Weinidog.
“Er mwyn i uned annibynnol weithredu, byddai angen iddi fodloni’r safonau sy’n ofynnol gyda’r colegau brenhinol perthnasol. Mae hynny’n cynnwys nifer y cleifion sydd eu hangen i gynnal uned arbenigol o’r math hwn.
“Dyna’r peth mae pobl yn y gogledd yn ei drafod ar hyn o bryd: allwn ni sefydlu uned yn y gogledd ble bydd y colegau brenhinol yn fodlon rhoi caniatâd i honno symud yn ei blaen?
“Mae’r trafodaethau hynny yn parhau, a dwi’n gwybod bod pob cyfle yn cael ei gymryd i gyflymu’r broses o gytuno ar gyfres o gynigion ymarferol.”