Mae bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu cyfraith gafodd ei phasio gan y Senedd yn “ymosodiad amlwg ar ddatganoli”, medd gwleidyddion ac undebau llafur.

Mae’r cynlluniau yn rhan o ymdrech Llywodraeth San Steffan i wneud streiciau yn llai effeithiol, a daeth i’r amlwg yr wythnos nesaf y byddai eu hymdrechion yn berthnasol i Gymru hefyd.

Bydd Deddf Undebau Llafur Cymru 2017, a oedd yn gwahardd defnyddio gweithwyr dros dro yn ystod streiciau, yn cael ei dileu dan y cynlluniau.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n “bwriadu cael gwared ar Ddeddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 drwy ddeddfwriaeth gynradd pan bydd amser y Senedd yn caniatáu hynny, er mwyn sicrhau bod deddfwriaethau undebau llafur yr un fath dros Brydain Fawr”.

‘Tanseilio datganoli’

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y cynllun yn “ymosodiad amlwg ar ddatganoli a hawliau gweithwyr gan San Steffan”.

“Dim ond annibyniaeth all warchod hawliau gweithwyr a democratiaeth Cymru.”

Meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Môn: “I’r rhai sy’n gwadu bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig eisiau tanseilio datganoli, eglurwch hyn.

“Mae wedi bod yn systematig ers blynyddoedd, wedi’i yrru’n bennaf, ond nid yn llwyr, ail-ganoli pŵer Prydeinig wedi Brexit.

“Mae hyn yn mynd ag e i lefel newydd. Cyfraith ddatganoledig Gymreig yn cael ei dileu. Rhaid sefyll yn erbyn hyn.”

‘Annemocrataidd’

Wrth ymateb, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, y byddan nhw’n gwrthsefyll y newidiadau.

“Ymosodiad diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hawliau gweithwyr a democratiaeth – ofnadwy, sinigaidd, ac annemocrataidd gan blaid sydd ddim yn deall y peth cyntaf am bartneriaeth gymdeithasol,” meddai.

 

‘Casáu Cymru’

Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, wedi rhybuddio y byddai unrhyw her i Ddeddf Undebau Llafur Cymru yn arwain at “oblygiadau cyfansoddiadol difrifol”.

“Mae’n ymddangos bod Torïaid y Deyrnas Unedig yn casáu Cymru a phobol weithiol a’r ffaith bod gennym ni bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru,” meddai Mick Antoniw.

“Neu hwyrach eu bod nhw eisiau chwalu’r Deyrnas Unedig? Neu’r ddau beth, hwyrach?”

“Bydd unrhyw ymdrech i herio Deddf Undebau Llafur Cymru yn arwain at oblygiadau cyfansoddiadol difrifol.

“Wnawn nhw ddim cael hyn drwy’r senedd a byddan nhw’n tanseilio trefniadau diweddar Rhynglywodraethol a gafodd eu rhoi yn eu lle i greu gwell sefydlogrwydd cyfansoddiadol.

“Mae hyn yn ymateb difeddwl sy’n nodweddiadol o lywodraeth sy’n chwalu.

“Ac maen nhw’n methu â deall mai bwriad y Ddeddf oedd amddiffyn partneriaeth gymdeithasol a llesiant cymdeithasol.”

‘Gwarth’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi beirniadu’r cynlluniau hefyd, gan ddweud ei fod yn “warth”.

“Dyma’r bennod ddiweddaraf yn unig yn ymosodiad parhaus y Blaid Geidwadol ar gyfreithlondeb democrataidd y Senedd a chyfreithiau datganoledig,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Mae’r ffaith eu bod nhw’n anwybyddu ein Senedd er mwyn trio sathru ar hawliau gweithwyr yn peri mwy o bryder.”

‘Creu rhaniadau’

Mae undeb GMB, sy’n cynrychioli gweithwyr dros y Deyrnas Unedig, wedi dweud y dylai Llywodraeth San Steffan “stopio ymyrryd” ym materion datganoledig Cymru.

Mae’r undeb wedi addo cwffio cynlluniau “sinigaidd” y Torïaid “pob cam o’r ffordd”.

“Gadewch i ni fod yn glir, does gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim hawl i ddod ynghlwm â hyn – maen nhw’n camu dros y llinell,” meddai Tom Hoyles, swyddog gwleidyddol GMB yng Nghymru.

“Cafodd eu bil undebau llafur milain ei ddadwneud yng Nghymru chwe blynedd yn ôl.

“Mae hyn yn ymdrech amlwg i greu rhaniadau a thynnu sylw oddi wrth lanast mewnol eu plaid a’u methiant wrth fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

“Dylen nhw stopio ymyrryd.”