Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun peilot ar gyfer treialu Incwm Sylfaenol heddiw (Mehefin 28).

O Orffennaf 1 2022, caiff £1,600 (cyn treth) ei gynnig bob mis i fwy na 500 o bobol sy’n gadael gofal yng Nghymru am ddwy flynedd, i’w cefnogi wrth iddyn nhw gymryd y cam tuag at fywyd fel oedolion.

Y gobaith yw y bydd y peilot yn gosod pobol ifanc sy’n gadael gofal ar lwybr tuag at fywyd iach, hapus, llawn boddhad.

Mae ymddiriedaeth, ymreolaeth a pharch yn elfennau canolog o’r cam radical hwn, meddai Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu annibyniaeth a sicrwydd i bobl sydd wedi wynebu heriau aruthrol yn ystod eu plentyndod, gan roi mwy o reolaeth iddynt a’u grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch eu dyfodol.

Caiff y peilot gwerth £20 miliwn, a fydd yn rhedeg am dair blynedd, ei werthuso er mwyn ystyried yn ofalus ei effaith ar fywydau’r unigolion dan sylw.

‘Dyletswydd wirioneddol’

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, wrth lansio’r cynllun, eu bod nhw eisiau i’n holl bobol ifanc gael y cyfle gorau mewn bywyd a chyflawni eu potensial llawn.

“Y wladwriaeth yw gwarcheidwad pobol sy’n gadael gofal, ac felly mae dyletswydd wirioneddol arni i’w cefnogi ar ddechrau eu bywyd fel oedolion,” meddai Mark Drakeford.

“Ein ffocws fydd agor eu byd i’w holl bosibiliadau a’u gwneud yn annibynnol ar wasanaethau wrth i’w bywydau ddatblygu.

“Dyw llawer o’r rhai sy’n rhan o’r peilot yma ddim wedi cael y gefnogaeth y mae eraill – gan fy nghynnwys i fy hun – wedi bod yn ddigon lwcus i’w mwynhau wrth ddechrau ar ein llwybr i fywyd fel oedolyn.

“Bydd y fenter radical hon yn gwneud mwy na gwella bywydau’r rheini sy’n cymryd rhan ynddo yn unig, ac y bydd yn dod â budd i weddill cymdeithas Cymru hefyd. Os ydym yn llwyddo gyda’r hyn rydym yn ceisio ei wneud heddiw, dim ond y cam cyntaf fydd hwn ar daith a fydd, o bosibl, o fantais i genedlaethau i ddod.”

‘Sefydlogrwydd ariannol’

I lansio’r cynllun, fe wnaeth y Prif Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol gyfarfod â’r bobol sy’n cymryd rhan yn y peilot, ac â phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, i siarad am yr effaith y bydd y gefnogaeth hon yn ei chael ar fywydau.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt, bod angen ffyrdd newydd i roi cefnogaeth i’r bobol sydd ei angen fwyaf.

“Mae ein peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect hynod gyffrous sy’n rhoi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc.

“Mae gormod o bobol sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau enfawr wrth geisio cyflawni eu gobeithion a’u breuddwydion, ee cael cartref diogel a sefydlog, cael swydd a datblygu gyrfa foddhaol. Bydd y cynllun hwn yn helpu pobl i fyw bywyd sy’n rhydd rhag rhwystrau a chyfyngiadau o’r fath.”

‘Cyfle gwych’

Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn y peilot yn cael cyngor a chefnogaeth fel unigolion i’w helpu i reoli eu cyllid a datblygu eu sgiliau ariannol, gyda’r awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol wrth eu cefnogi.

Bydd Voices from Care Cymru hefyd yn gweithio gyda’r bobl ifanc i roi cyngor iddynt ar faterion lles, addysg a chyflogaeth, ac i’w helpu i gynllunio eu dyfodol ar ôl y peilot.

Meddai Tiff Evans o Voices from Care Cymru, wrth siarad ar ran pobol ifanc sydd â phrofiadau o fod mewn gofal: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru. Mae’n braf gweld eu bod nhw’n cael sylw, a bod Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyfle yma iddyn nhw gael meithrin cyfrifoldeb, rheoli rhai rhannau o’u bywydau, a ffynnu a bod yn annibynnol yn ariannol.

“Rydyn ni am ddiolch i Lywodraeth Cymru am fuddsoddi ynddyn nhw ac yn eu dyfodol, ac edrychwn ymlaen at weld newidiadau a datblygiadau eraill ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn iddyn nhw gyflawni eu breuddwydion.”

‘Creu mwy o broblemau’

Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynllun gan ddweud y bydd yn faich ychwanegol i gynghorau lleol.

“Mae wedi’i brofi dro ar ôl tro nad yw’r rhaglen Incwm Sylfaenol honedig yn gweithio,” meddai Joel James, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Bartneriaethau Cymdeithasol.

“Edrychwch ar y Ffindir, a wnaeth anghofio am y rhaglen ar ôl dwy flynedd er mwyn ffafrio rhaglen newydd sy’n annog pobol i weithio neu hyfforddi.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y grŵp hwn yn un agored i niwed, a’u bod nhw angen cefnogaeth ychwanegol – ond nid dyma’r ffordd gywir i’w ddarparu a gallai greu mwy o broblemau nag mae’n ddatrys.

“Mae’n nodweddiadol o Lafur – ond mae’n amlwg nad yw rhoi arian am ddim i bobol yn ddatrysiad sydyn.”