“Dydy pawb ddim yn cytuno ar bob peth, ond y prif beth ydi’r alwad am annibyniaeth i Gymru” yw cri Dafydd Iwan, wrth iddo edrych ymlaen at orymdaith annibyniaeth Wrecsam, neu ‘Indy Fest Wrecsam’, lle bydd y canwr yn perfformio.

Mae’r orymdaith wedi cael ei threfnu mewn cydweithrediad rhwng AUOBCymru, Indy Fest Wrecsam ac YesCymru.

Mae llu o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos, gyda’r orymdaith ei hun yn dechrau am 12 o’r gloch ar y dydd Sadwrn (Gorffennaf 2).

Mae gofyn i bawb sy’n cymryd rhan gyfarfod am 10.30yb, ac i ddod â baneri, drymiau ac offerynnau amrywiol.

Ar ôl yr orymdaith, bydd rali gyda siaradwyr a cherddoriaeth, a bydd sgriniau mawr ger y llwyfan, lle bydd Dafydd Iwan, Pol Wong o Indy Fest Wrecsam, y bardd ac ymgyrchydd Evrah Rose, y digrifwr Tudur Owen, y Cynghorydd Carrie Harper, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Dylan Lewis Rowlands o Labour for Indy Wales yn annerch y dorf.

Mae disgwyl i ragor o enwau gael eu cyhoeddi maes o law.

Ynghyd â’r orymdaith, bydd marchnad yn Sgwâr y Frenhines rhwng 9.30yb a 4yp, gyda thros 20 o stondinau yn cynnig bwyd, diod a chynnyrch lleol, gan gynnwys nwyddau i hyrwyddo annibyniaeth.

Ar y nos Wener a’r nos Sadwrn, bydd gigs yn Saith Seren, gyda Bryn Fôn yn canu ar y noson cyn yr orymdaith.

‘Pethau da iawn yn digwydd yn Wrecsam’

Mae Dafydd Iwan yn credu fod yr “amseru’n berffaith” i gynnal yr orymdaith yn sgil y “pethau da iawn sy’n digwydd yn Wrecsam”, yn ogystal â llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol wrth gyrraedd Cwpan y Byd.

Fodd bynnag, mae hi wedi bod yn gyfnod digon cythryblus i YesCymru dros y flwyddyn diwethaf.

Yn dilyn twf syfrdanol YesCymru yn ystod ton gyntaf y pandemig, pan gododd nifer yr aelodaeth i 18,000, fe wnaeth materion mewnol ac allanol arwain at filoedd yn gadael y mudiad – sydd bellach ag oddeutu 10,000 o aelodau, yn ôl y Corff Rheoli.

Y mater amlycaf oedd honiadau bod YesCymru wedi methu â datgan cefnogaeth ddigonol i bobol drawsryweddol – rhywbeth y mae’r mudiad yn dal i gael ei farnu’n hallt yn ei sgil.

Fe adawodd Siôn Jobbins ei rôl fel Cadeirydd y mudiad, cafodd y cyfansoddiad ei ailysgrifennu, tra bod Corff Rheoli newydd wedi cael ei ethol erbyn hyn.

“Problemau llwyddiant” oedd y rhain, yn ôl Dafydd Iwan, sy’n credu bod “Yes Cymru mewn cyflwr lot cryfach i fanteisio ar y momentwm erbyn hyn”.

“Dw i’n falch iawn fod yna rali o’r diwedd achos dyna oedd y prif beth oedd yn cadw’r momentwm i fynd i Yes Cymru,” meddai wrth golwg360.

“A dw i’n sicr y bydd yna griw mawr iawn yn Wrecsam.

“Mae’n amlwg fod yna gyffro mawr ynglŷn â’r peth oherwydd bod y ralïau’n ailddechrau fel petai, ac wrth gwrs mae yna bethau da iawn yn digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd.

“Dw i’n meddwl bod yr amseru’n berffaith.

“Roeddwn i yno wythnos diwethaf mewn gŵyl gafodd ei threfnu gan Wrexham Lager ac roedden nhw’n uniaethu eu hunain efo llawer iawn o’r pethau sy’n digwydd yn y byd pêl-droed a gyda’r rali yma.

“Mae yna gryn edrych ymlaen ymhlith y Cymry Cymraeg a’r Cymry di-Gymraeg, ac mae o’n beth da iawn ei fod o’n digwydd.

“Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at hwn ers sbel oherwydd unwaith stopiodd y ralïau, roedd problemau Yes Cymru yn cael yr amlygrwydd.

“Problemau llwyddiant oedden nhw a dweud y gwir, a dw i’n meddwl eu bod nhw wedi cael eu sortio rŵan.

“Yr unig beth sydd ei angen ydi ailgychwyn y ralïau yma, a dw i’n meddwl bod Yes Cymru mewn cyflwr lot cryfach i fanteisio ar y momentwm erbyn hyn.

“Mae angen i ni ganolbwyntio ar yr egwyddor fod pawb o dan un faner, dw i’n credu fod hynny yn bwysig.

“Hynny yw, dydi pawb ddim yn cytuno ar bob peth, ond y prif beth ydi’r alwad am annibyniaeth i Gymru.

“A beth mae hynny yn ei olygu yn y cyfamser ydi datblygu beth sydd gennym ni mewn ffordd gall.

“Mae cadw’r ysbryd positif yna, fel rwyt ti’n ei weld yn y byd pêl-droed, a chydweithio, yn bwysig iawn.”

‘Uchelgeisiol’

Mae trefnwyr yr orymdaith yn gobeithio elwa ar y cyffro sydd ynghlwm â Wrecsam ers i ddau o sêr y byd actio, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, fuddsoddi yn y clwb pêl-droed lleol.

Dywed Phyl Griffiths, sy’n aelod o Gorff Rheoli Yes Cymru, fod yna “deimlad cryf iawn o Gymreictod yn y dref”.

“Allen ni ddim fod wedi trefnu hyn yn well gyda phopeth sydd wedi digwydd gyda’r clwb pêl-droed,” meddai wrth golwg360.

“Mae Wrecsam ar i fyny ac mae yna deimlad cryf iawn o Gymreictod yn y dref, felly mae e’n hollol angenrheidiol bod y bobol leol yn cymryd cyfrifoldeb am arwain ar y trefniadau ac ein bod ni wedyn yn eu cefnogi nhw.

“Ond y bobol leol wrth gwrs sy’n adnabod yr ardal, yn adnabod y bobol, y busnesau ac felly’n gallu mynd ati i greu’r rhwydwaith yma i wneud yn siŵr bod y digwyddiad yn un llwyddiannus.

“Fe gawson ni’r un math o brofiadau wrth drefnu’r rali ym Merthyr achos mae e’n esgus da iawn wedyn i ymestyn allan at y busnesau lleol a’r mudiadau lleol, ac i fesur wedyn beth yw eu teimladau nhw am annibyniaeth.

“Ac mae e’n ffordd dda iawn i ryngweithio ac i gydweithio gyda’r busnesau yna wedyn a rhoi sylw iddyn nhw.

“Er enghraifft, un elfen o’r rali yn Wrecsam nawr yw stondinau ar hyd y stryd gan y busnesau.

“Felly bydd cyfle ganddyn nhw i hyrwyddo eu gwaith nhw ar lwyfan sydd wedi cael ei roi iddyn nhw gan y mudiad annibyniaeth.

“Wrth gwrs, mae’r digwyddiad yn fwy na rali, chwarae teg iddyn nhw yn Wrecsam, mae e’n uchelgeisiol iawn.

“Roedden nhw eisiau cynnwys ychydig bach o bopeth yn y penwythnos, doedden nhw ddim eisiau dim ond gorymdaith a dyna fe.

“A dw i’n credu mai dyna sydd wedi bod yn digwydd ar hyd yr amser, ein bod ni wedi datblygu a dysgu gwersi o’r gorymdeithiau blaenorol er mwyn datblygu.

“Yn sicr, hwn fydd yr un mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn o bell ffordd.”

Dafydd Iwan

Cyhoeddi rhagor o fanylion am orymdaith annibyniaeth Wrecsam

Bydd yr orymdaith yn dechrau am 12 o’r gloch ar Orffennaf 2