Mae nifer y bobol mewn poen ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i dyfu i bron i un ym mhob pedwar o’r boblogaeth.

Mae data diweddara’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar gyfer mis Ebrill yn dangos y nifer fwyaf erioed o gleifion yn aros am driniaeth, gyda dros 707,000 ar lwybrau cleifion, sy’n gynnydd o dros 15,000 mewn dau fis.

Mae hyn yn gadael dros un rhan o bump o boblogaeth Cymru ar restr aros.

Mae nifer y bobol sy’n aros ers dros ddwy flynedd bellach yn 68,000, sy’n gynnydd o 887% mewn blwyddyn.

Yr amser aros canolrif ar gyfer yr un mis yng Nghymru oedd 22.5 wythnos o gymharu â 12.6 yn Lloegr.

Tra bod un ym mhob pedwar claf yng Nghymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth, dim ond un ym mhob 20 sy’n gorfod disgwyl hynny yn Lloegr.

‘Niferoedd cywilyddus’

“Mae’n syndod bod rhestr aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn parhau i dyfu pan fo’r Llywodraeth Lafur yn mynnu bod pethau’n gwella o hyd pan nad ydynt yn amlwg,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydw i wir yn teimlo dros unrhyw un sy’n cael eu hunain mewn poen yn y system hon.

“Gallai eu bywydau o ddydd i ddydd gael eu rhwystro’n ddifrifol yn ogystal â’u gallu i ennill yn ystod argyfwng costau byw.

“Rydym wedi bod yn glir yn ein datrysiadau i’r argyfwng hwn ac er y bydd rhai, fel ein hybiau llawfeddygol rhanbarthol, yn dod i rym yn y dyfodol, mae sawl mis ers i ni eu cynnig gyntaf.

“Fel bob amser, mae’r atebion yn dod yn llawer rhy hwyr i gleifion, sydd yn hytrach yn gweld gweinidogion Llafur yn canolbwyntio ar greu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

“Mae angen i Lafur roi’r gorau i dorri’r holl recordiau anghywir a dod â’r niferoedd cywilyddus hyn i ben lle mae 1 mewn 5 o bobl ar restr aros, 1 mewn 4 ohonyn nhw am dros flwyddyn, a bron i 70,000 am ddwy flynedd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ein gwasanaethau iechyd yn dal i adfer o effeithiau’r pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni wedi gweld mwy o bobol yn ymweld â’n gwasanaethau gyda phryderon iechyd ond bydd y lleihad yn nifer y diwrnodau gwaith oherwydd gwyliau’r Pasg wedi effeithio ar gapasiti gofal wedi’i drefnu.

“Cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros am driniaeth ychydig ym mis Ebrill 0.8% (707,099) o gymharu â’r mis blaenorol.

“Ond bu gostyngiad o 3.4% yn nifer y llwybrau a oedd yn aros dros ddwy flynedd o gymharu â mis Mawrth 2022.

“Dyma’r gostyngiad cyntaf ers dechrau’r pandemig.

“Ym mis Ebrill bu gostyngiad o 10.5% yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros yn hwy na’r amser targed o 14 wythnos am therapïau o gymharu â mis Mawrth 2022 a dyma’r gostyngiad misol cyntaf ers mis Mai 2021.

“Cynyddodd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am ddiagnosteg 0.3% o’i gymharu â’r mis blaenorol gyda llwybrau a oedd yn aros wyth wythnos am brofion diagnostig hefyd yn cynyddu 8%.

“Fodd bynnag, mae hyn yn ostyngiad o 28% o’i gymharu â’r uchafbwynt ym mis Mai 2020.”

 

Ambiwlans

Ambiwlansys heb gyrraedd 45% o achosion brys o fewn y targed amser

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai 54.5% o’r ymatebion brys i alwadau coch gyrhaeddodd o fewn y targed – 6.1 pwynt canran yn is nag ym mis Mai