Doedd 45.5% yr ambiwlansys gafodd eu galw at achosion brys, lle’r oedd bywyd yn y fantol, ddim wedi cyrraedd o fewn y targed o wyth munud yn ystod mis Mai.
Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn dangos mai 54.5% o’r ymatebion brys i alwadau coch gyrhaeddodd o fewn y targed – 6.1 pwynt canran yn is nag ym mis Mai 2021.
Targed y gwasanaeth yw ymateb i 65% o alwadau coch mewn wyth munud.
Ym mis Mai, canolrif yr amser aros ar gyfer galwadau coch oedd saith munud a 22 eiliad.
Roedd hyn 27 eiliad yn gyflymach nag ym mis Ebrill, ond 36 eiliad yn arafach nag ym mis Mai 2021.
Roedd yr amseroedd ymateb mwyaf araf yn ardal bwrdd iechyd Powys, lle cyrhaeddodd 43.5% o ambiwlansys alwadau brys o fewn wyth munud.
Does dim targed ar gyfer galwadau oren, ond mae’r ystadegau’n dangos mai awr a deunaw munud oedd canolrif yr amser ymateb ar eu cyfer ym mis Mai, bron i 30 munud yn arafach nag ym mis Mai 2021.
‘Ardaloedd gwledig ymhlith y rhai yr effeithir arnynt waethaf’
“Mae’r ffigurau brawychus hyn yn dangos bod oedi mewn ambiwlansys ar gyfer galwadau lle mae bywyd yn y fantol yn dal yn llawer rhy uchel a bod ardaloedd gwledig ymhlith y rhai yr effeithir arnynt waethaf,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth ymateb i’r amseroedd diweddaraf.
“Mae cleifion yn cael eu gadael i dalu’r pris am flynyddoedd o Lafur yn gadael ein gwasanaethau iechyd i lawr.
“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gosod cynllun clir i drwsio’r argyfwng ambiwlans, gan gynnwys symud mwy o wasanaethau yn ôl i gymunedau lleol a buddsoddi mwy mewn meddygon teulu a gofal cymdeithasol, gan leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd brys.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae ein gwasanaethau iechyd yn dal i adfer o effeithiau’r pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni wedi gweld mwy o bobol yn ymweld â’n gwasanaethau gyda phryderon iechyd ond bydd y lleihad yn nifer y diwrnodau gwaith oherwydd gwyliau’r Pasg wedi effeithio ar gapasiti gofal wedi’i drefnu.
“Mae staff adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans 999 yn parhau i fod o dan gryn bwysau oherwydd heriau o ran capasiti ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae hyn wedi’i ddwysáu’n ddiweddar gan lefelau uwch na’r disgwyl o absenoldebau salwch.
“Diolch i waith caled ac ymrwymiad y staff, cafwyd gwelliannau bach ar draws gofal brys a gofal mewn argyfwng.
“Ym mis Mai, o’i gymharu â mis Ebrill, roedd gwelliannau o ran ymatebolrwydd ambiwlansys a pherfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys ac mae mwyafrif y cleifion yn parhau i gael gofal diogel ac amserol.
“Er hynny, mae lefel yr oedi y mae cleifion yn ei phrofi ar adegau yn dal i beri pryder inni ac rydyn ni’n gweithio gyda’r holl randdeiliaid drwy raglenni cenedlaethol i gefnogi gwelliannau.”