Dylai unrhyw un sy’n dymuno newid statws eu cartref o fod yn un parhaol i fod yn llety gwyliau neu’n ail gartref orfod cael caniatâd cynllunio, yn ôl cyn-Aelod Seneddol yng Nghernyw.
Daw sylwadau Andrew George, cyn-Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Borth Iâ, wrth ymateb i’r argyfwng ail gartrefi a thai haf.
Yn yr un modd â Chymru, mae mewnlifiad pobol sy’n berchen ar ail gartrefi a thai haf yng Nghernyw yn prisio pobol leol allan o’r farchnad.
Yn 2016, penderfynodd trigolion Porth Iâ weithredu yn erbyn y cynnydd mewn ail gartrefi drwy gyflwyno amod “prif gartref” wrth werthu tŷ, fel na fyddai’r eiddo’n gallu bod yn ail gartref nac yn dŷ haf.
Y gobaith oedd lleihau nifer y bobol oedd yn prynu eiddo ar gyfer buddsoddiad, gan sicrhau mwy o dai fforddiadwy i bobol leol, ond mae ei lwyddiant wedi bod yn gyfyng.
Tai gwag yng Ngwynedd
Ar yr un pryd yng Nghymru, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i brynu 1,200 o dai gwag yn y sir er mwyn sicrhau bod tai ar gael i’w rhentu i bobol leol.
Mae 5,098 o ail gartrefi yn y sir, sy’n cyfateb i 10% o’r stoc gyfan, ac mae pobol leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad.
Yn sgil cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi fis Mawrth, gallai rhai perchnogion ail gartrefi orfod talu pedair gwaith yn fwy o dreth cyngor o fis Ebrill.
Ateb posib yng Nghernyw
“Dw i wedi dadlau ers diwedd yr 80au y dylai fod Dosbarth Defnydd newydd yn y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd ar gyfer trigolion nad ydyn nhw’n drigolion parhaol,” meddai Andrew George, cyn-Aelod Seneddol Porth Iâ.
“Felly byddai angen i unrhyw berson sy’n dymuno troi eiddo presennol o fod yn un parhaol i fod yn un achlysurol wneud cais am ganiatâd cynllunio.
“Gallai cymunedau ac awdurdodau lleol osod cyfyngiadau ar hyn.
“Byddai yna gofrestr hefyd o ail gartrefi a llety gwyliau presennol, a byddai’r gofrestr honno wedyn yn sail i ba awdurdodau allai gyflwyno trethi uwch.
“Byddwn i hefyd yn dileu’r eithriad a fyddai’n galluogi perchnogion ail gartrefi i newid i gyfraddau busnes, ymgeisio ar gyfer Rhyddhad Treth Busnesau Bach ac osgoi talu unrhyw dreth o gwbl (ochr yn ochr â’r “effeithlonrwydd trethi” niferus eraill maen nhw’n eu defnyddio).
“Mae hyn yn costio oddeutu £15m y flwyddyn i Gernyw, ac roedd yn sail iddyn nhw dderbyn £200m o gymorth Covid Cernyw, a nawr maen nhw ar fin derbyn £700m o grant tanwydd y Llywodraeth yn genedlaethol!
“Pe bai’r arian hwn wedi’i dalu i’r rheiny sy’n derbyn budd-daliadau neu geiswyr lloches, byddai’r Torïaid wedi dileu hyn flynyddoedd yn ôl.
“Yn y bôn, yr hyn mae’r Torïaid yn ei ddweud yw, os ydyn nhw’n canfod fod teuluoedd incwm isel yn tanddefnyddio’u tai cyngor, maen nhw’n eu cosbi nhw â’r dreth ystafell wely, ond os yw pobol gyfoethog yn defnyddio’u hail gartref, maen nhw’n eu gwobrwyo nhw gydag eithriadau treth mawr.”