Mae ymchwiliad i gwch pysgota wnaeth suddo oddi ar arfordir Conwy gan ladd tri physgotwr wedi canfod fod y cwch “wedi’i orlwytho ac yn ansefydlog”.

Bu farw Ross Ballantine (39), Alan Minard (20) a’r capten Carl McGrath (34) pan suddodd eu cwch, y Nicola Faith, ar Ionawr 27 y llynedd.

Mae ymchwilwyr yn credu nad oedd y dynion yn gwisgo siacedi achub, a bod y cwch wedi suddo’n rhy gyflym iddyn nhw allu cysylltu â’r gwasanaethau brys, gan olygu fod siawns isel o’u hachub.

Suddodd y cwch 1.9 milltir i’r gogledd o Landrillo-yn-Rhos, a daeth eu cyrff i’r lan oddi ar Gilgwri a Blackpool ym mis Mawrth, a daethpwyd o hyd i’w cwch fis yn ddiweddarach.

‘Gweithredu mewn modd anniogel’

Yn ôl yr adroddiad gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Morwrol (MAIB), roedd y cwch yn cael ei “weithredu mewn modd anniogel” yn rheolaidd, gyda’r flaenoriaeth ar gludo llwythi mawr o’u cynnyrch, yn hytrach na sicrhau ei fod yn sefydlog ar y môr.

Roedd addasiadau strwythurol hefyd wedi’u gwneud i’r cwch, gan ei wneud yn llai sefydlog.

Daeth i’r amlwg fod y Nicola Faith bron â throi ddwywaith o’r blaen wrth gludo gormod o gynnyrch.

Er bod y capten wedi bod ar hyfforddiant ymwybyddiaeth sefydlogrwydd, “fe flaenoriaethodd fanteision gorlwytho’r cwch ar draul y risg o droi drosodd”, meddai ymchwilwyr.

Fe wnaethon nhw ddarganfod hefyd fod y cyfle i achub y criw yn is gan nad oedd gan y cwch gyfarpar digidol EPIRB (Emergency Position Indicating Radio Beacon) fyddai wedi anfon nodyn argyfwng i’r gwasanaethau brys yn dangos bod y cwch mewn perygl.

“Roedd y Nicola Faith wedi derbyn nifer o addasiadau nad oedd wedi eu cymeradwyo,” yn ôl y prif ymchwilydd Andrew Moll.

“Er hynny, roedd modd i’r cwch gael ei hwylio yn ddiogel gyda gofal.

“Ar ddiwrnod y ddamwain, roedd y criw yn symud eu rhwydi i ardal wahanol ac mi oedd y cwch hefyd yn dal cynnyrch oedd wedi ei gasglu yn ystod y dydd.

“Roedd y cyfuniad o bwysau’r cynnyrch a hefyd yr holl gyfarpar pysgota ar fwrdd y cwch yn rhy drwm i’r hyn oedd y Nicola Faith yn gallu ymdopi â fe, ac fe wnaeth droi ar ei ochr ac fe gollodd y tri aelod o’r criw eu bywydau.”

‘Sgil-effeithiau catastroffig’

“Mi fydd pysgotwyr wastad yn gweld temtasiwn i hel stoc fawr o gynnyrch ond mae symud cyfarpar ar yr un pryd yn gallu llethu gallu’r cwch,” meddai Andrew Moll.

“Wrth i brisiau tanwydd gynyddu’n fawr, mae’r demtasiwn i griwiau gludo mwy o stoc a gwneud llai o deithiau yn gwneud synnwyr economaidd, ond pan fydd hynny yn amharu ar sefydlogrwydd y cwch, fe allai’r sgil-effeithiau fod yn gatastroffig.

“Mae bywydau tri o deuluoedd wedi eu dinistrio yn y ddamwain hon – roedd modd osgoi hyn yn llwyr.

“I bawb sy’n gweithio ar fwrdd cychod o’r fath, mae’r neges yn un syml.

“Mae sefydlogrwydd yn ganolog i ddiogelwch y cwch.

“Mae’n rhaid i chi wybod terfyn a gallu eich cwch a sicrhau nad ydych chi’n gwthio hynny i’r eithaf.”