Carolyn Hitt yw Golygydd newydd Radio Wales a Chwaraeon, gan olynu Colin Paterson, a bydd hi’n dechrau yn ei swydd newydd ym mis Awst.

Bydd hi’n gyfrifol am holl allbwn Radio Wales, ac am gynnwys digidol Saesneg BBC Cymru ar BBC Sounds, yn ogystal â chwaraeon ar deledu, radio ac ar-lein hyd at Gwpan y Byd yn Qatar a thu hwnt.

Yn enedigol o Lwynypia yng Nghwm Rhondda, dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda’r Western Mail, gan ddod yn Olygydd Nodwedd gan ennill gwobrau, cyn troi at ddarlledu gyda’r cwmni annibynnol Presentable.

Yn 2012, sefydlodd hi’r cwmni Parasol Media, sy’n cynhyrchu’r cwis Only Connect a nifer o raglenni dogfen, hanes, chwaraeon, cerddoriaeth ac adloniant a phrosiectau aml-gyfrwng.

Yn gynhyrchydd annibynnol, bu’n cydweithio â Radio Wales ers dros 20 mlynedd, yn cynhyrchu eitemau dyddiol ac wythnosol, rhaglenni dogfen, cyfresi ffeithiol a sioeau comedi.

Mae hi hefyd wedi gohebu i’r Guardian, The Daily Telegraph a sawl cylchgrawn, ac roedd hi’n golofnydd gyda’r Western Mail am 30 mlynedd, gan ennill gwobrau.

Fel un sydd wedi arloesi ar ran menywod ym myd y cyfryngau chwaraeon, hi oedd y ferch gyntaf i ennill Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn – yn 1998 – ac aeth yn ei blaen i ennill y wobr Brydeinig.

Hi hefyd oedd y ferch gyntaf i ennill Newyddiadurwr y Flwyddyn Oriel Enwogion Cymru, ac yn 2016, y ferch gyntaf i ennill Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Gwobrau’r Wasg Ranbarthol Cymdeithas y Golygyddion yn y Deyrnas Unedig.

Mae Colin Paterson yn symud i fod yn Uwch Arweinydd Hwb Awdio Cymru a Gorllewin Lloegr.

‘Cyfoeth o brofiad’

“Daw Carolyn â chyfoeth o brofiad a chreadigrwydd i’r rôl hollbwysig hon o fewn BBC Cymru,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Mae ganddi angerdd anhygoel am straeon a chynnwys apelgar, ac rwy’n gwybod y bydd hi’n ychwanegiad gwych i’r tîm wrth i ni edrych ymlaen at bennod hynod gyffrous.”

“Rydw i wrth fy modd yn cael gwneud y rôl hon,” meddai Carolyn Hitt.

“Mae cynnwys sain a chwaraeon yn chwarae rhan allweddol ym mywyd y genedl – gan ddod â ni at ein gilydd ac adlewyrchu pwy ydyn ni.

“Felly mae gweithio gyda thalent gwych Radio Wales ac adran Chwaraeon BBC Cymru i ysbrydoli, ymgysylltu a chyffroi’r gynulleidfa yng Nghymru – yn ei holl amrywiaeth anhygoel – yn fraint anferthol.”