Mae Boris Johnson yn peri “bygythiad gwirioneddol” i ddyfodol yr Undeb, yn ôl yr Arglwydd Patten, cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol.

Ar orsaf radio LBC, bu’r Arglwydd Patten yn trafod y posibilrwydd y gallai Boris Johnson ennill tymor arall yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Dywedodd wrth y cyflwynydd Andrew Marr fod Boris Johnson yn arwain Llywodraeth “genedlaetholgar Seisnig” sy’n “cyflymu dirywiad yr Undeb”.

“Os ydych chi eisiau chwalu’r undeb, rydych chi’n anfon Boris Johnson i’r Alban,” meddai.

“Rwy’n credu bod y Llywodraeth hon yn fygythiad gwirioneddol.

“Ystyriwch y ffordd maen nhw’n ymdrin â Phrotocol Gogledd Iwerddon, gan ddiystyru’r cytundeb heddwch pwysicaf mae’r wlad hon wedi’i sicrhau dros Ogledd Iwerddon.

“Rwy’n credu y dylem baratoi am y posibilrwydd o chwalu’r undeb o dan yr amgylchiadau hynny.”

Y Ceidwadwyr angen “newid radical iawn”

Pan gafodd ei holi pa ganlyniad yr hoffai ei weld yn yr etholiad cyffredinol nesaf, dywedodd yr Arglwydd Patten y byddai’n well ganddo weld clymblaid sy’n dal yr undeb ynghyd.

Ychwanegodd nad yw’n credu bod y llywodraeth bresennol yn llywodraeth wirioneddol Geidwadol.

“Yn anffodus, mae’n llywodraeth boblyddol ac yn amhoblogaidd, sy’n gyfuniad ofnadwy,” meddai.

“Oni bai bod y Ceidwadwyr yn newid yn radical iawn, byddai ennill yr etholiad nesaf yn drychineb iddyn nhw a’r gweddill ohonom, oherwydd dydw i ddim yn meddwl bod gennym ni lywodraeth Geidwadol ar hyn o bryd, nac ychwaith un y gallwch ymddiried ynddi.”