Mae AUOB Cernyw wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal gorymdaith dros annibyniaeth fis nesaf.
Bydd cerddorion ac aelodau o sefydliadau sy’n gweithio i liniaru’r heriau sy’n wynebu pobol Cernyw yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Y bwriad yw cyfarfod ar Gei Lemon yn Truru am 12 o’r gloch ar Orffennaf 16, gan adael am 1 o’r gloch.
Mae’r mudiad yn rhybuddio bod iaith a hanes Cernyw “yn cael eu diystyru a’u dileu mewn ymdrechion i wneud i Gernyw ymddangos yn rhan o Loegr yn unig”.
‘Hunanbenderfyniad’
Yn ôl y trefnwyr, dim ond “hunanbenderfyniad” fydd yn galluogi pobol Cernyw i fynd i’r afael â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.
“Mae Cernyw yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol mawr sy’n effeithio ar ei phobol o ddydd i ddydd,” meddai llefarydd.
“Byddai’r hunanbenderfyniad y mae gan Gernyw hawl hanesyddol iddo yn caniatáu i’w phobol adfywio democratiaeth yma a mynd i’r afael â materion megis digartrefedd, dirywiad ein trefi, ein pentrefi a’n mannau gwyrdd hanesyddol, diffyg swyddi, heb sôn am golli cefnogaeth i’n rhaglenni iaith a diwylliant.
“Mae’r gwaith o hyrwyddo Cernyw fel maes chwarae gwyliau yn mynd â swyddi a chartrefi oddi wrth bobol leol ac yn cipio ffyniant economaidd allan o Gernyw.
“Mae’n disodli gwir ddiwydiant a masnach gyda swyddi dros dro sy’n talu’n isel.
“Nid oes gan y stryd fawr y siopau mwyach i ddarparu ar gyfer anghenion y gymuned, dim ond i ddarparu ar gyfer pobol sydd ar wyliau.
“Nid yw cymorth strwythurol yn ddigon i alluogi pobol Cernyw i aros i gefnogi eu hunain neu fagu eu teuluoedd.
“Mae digwyddiadau traddodiadol a chymunedol oedd yn arfer cael eu harwain gan y gymuned wedi’u troi’n gyfleoedd masnach i bobol o’r tu allan.
“Ar yr un pryd mae ein hiaith a’n hanes yn cael eu diystyru a’u dileu mewn ymdrechion i wneud i Gernyw ymddangos yn rhan o Loegr yn unig.”