Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am weithredu ar fynediad i fysiau ysgol yn dilyn y newyddion na all rhai teuluoedd fforddio anfon eu plant i’r ysgol wrth i gostau byw gynyddu.

Mae arolwg gafodd ei gyhoeddi gan ysgol uwchradd yng ngogledd Caerdydd wedi canfod fod rhai plant yn colli dyddiau ysgol oherwydd nad yw eu teuluoedd yn gallu fforddio’r teithiau bws.

Dim ond disgyblion sy’n byw o leiaf dair milltir o’r ysgol sy’n cael cludiant am ddim.

Angen camau brys

Dywed Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi’n “destun pryder mawr fod plant yn colli’r ysgol am resymau ariannol”.

“Mae’n hanfodol fod plant yn yr ystafell ddosbarth lle maen nhw’n perthyn – yn enwedig gan fod disgyblion Cymru wedi methu cyfartaledd o 66 diwrnod ysgol oherwydd cyfyngiadau symud, yn fwy nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dydy e’n dda i ddim bod gweinidogion jest yn eistedd ar eu dwylo – mae angen i’r Llywodraeth Lafur gymryd camau brys a gwneud yn siŵr nad yw materion ariannol yn rhwystr i gael mynediad at gludiant, er enghraifft drwy ystyried newid y pellter sy’n ofynnol ar gyfer cludiant ysgol am ddim.”

Problemau ledled y wlad

Yn ôl Sam Rowlands, llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig, “mae’r sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol”.

“Mae’r enghraifft hon yng Nghaerdydd, ond bydd problemau tebyg ledled y wlad,” meddai.

“Mae gan awdurdodau lleol ran i’w chwarae wrth liniaru’r argyfwng yma, gan gynnwys edrych ar fesurau fel lleihau dros dro y pellter sydd ei angen ar gyfer trafnidiaeth am ddim.

“Nid yn unig y bydd hyn yn tynnu pwysau oddi ar rieni, ond byddai’n arwain at lai o dagfeydd wrth i fysiau yn hytrach na cheir fynd â phlant i’r ysgol, ac ni fydd yn rhaid i blant dreulio teithiau cerdded hir ar lwybrau anniogel.”