Mae pôl piniwn gan YouGov ac ITV Wales yn awgrymu nad yw’r cyhoedd yn cytuno â chynlluniau Llafur a Phlaid Cymru i ddiwygio’r Senedd.

Defnyddiodd y pôl sampl o 1,020 o oedolion yng Nghymru ac fe gafodd ei gynnal rhwng Mehefin 12 ac 16.

Mae Senedd Cymru eisoes wedi pleidleisio o blaid bwrw ymlaen â’r newidiadau yn gynharach y mis hwn.

Y cynllun yw cynyddu maint Senedd Cymru o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod yr un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.

Y bwriad yw cael yr un etholaethau yn etholiad y Senedd yn 2026 â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig, sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Yna, bydd yr etholaethau hyn yn cael eu cyplysu er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.

Ac yn ôl y cynllun, fe fydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio gyda rhestrau ymgeiswyr caëedig – sy’n symud tuag at system gyfrannol o’i gymharu â’r drefn Cyntaf i’r Felin – yn cael eu mabwysiadu.

Dan y drefn ‘rhestrau ymgeiswyr caeedig’, fe fyddai pobol yn pleidleisio am bleidiau ac nid unigolion, ac ni fyddai modd bwrw pleidlais tros wleidydd penodol.

Y pôl

Gofynnodd arolwg barn YouGov i’r cyhoedd: ‘Ydych chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu cynyddu nifer y seddi yn y Senedd, o 60 i 96?’

Gyda’r sawl ddywedodd nad oedden nhw’n gwybod’ wedi eu diystyru, dim ond 39% a gefnogodd ehangu’r Senedd, gyda 61% yn gwrthwynebu.

Dywedodd 33% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n gwybod, gan awgrymu nad yw canran sylweddol o’r boblogaeth yn gwybod beth yn union sydd dan sylw.