Fe fydd tref Porthmadog yn cael ei thrawsnewid ddydd Sadwrn (Mehefin 25) wrth i’r ardal ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst 2023.
Fel rhan o ddiwrnod y Cyhoeddi, fe fydd y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau yn cael ei gyflwyno i’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, yn ystod seremoni draddodiadol yr Orsedd.
Yn ôl Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, bydd diwrnod y Cyhoeddi yn “benllanw” ar fis cyfan o ddigwyddiadau a gafodd eu trefnu gan y pwyllgorau a chan gymunedau ar hyd ardal yr Eisteddfod.
“Mae’r amseru wedi bod yn arbennig o dda,” meddai Guto Dafydd wrth golwg360. “Yn dod allan o’r gaeaf diwethaf, ar ôl dwy flynedd o fethu cynnal pethau, ar ôl cychwyn mor frwdfrydig ’nôl yn niwedd 2019, mae’r digwyddiad yma wedi bod yn rhywbeth i anelu ato fo.
“Mae’r seremoni ei hun yn amlwg am fod yn drawiadol, ac mae’n wych gweld seremoni draddodiadol yn digwydd eto, ond y peth pwysicaf i fi ydi’r digwyddiadau cymunedol rydan ni wedi llwyddo i’w cynnal. Mae’r rheiny wedi bod yn amrywiol, ac wedi tynnu llwyth o bobol, ac mae’n wych gweld pobol yn cymdeithasu ac yn dod yn ôl i fwynhau diwylliant.”
Un o’r digwyddiadau hynny oedd noson Siantis Môr a gafodd ei chynnal yn nhafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen ar Fehefin 10, yng nghwmni enwau adnabyddus fel Twm Morys, Gwyneth Glyn, Anni Llŷn a’r delynores Gwenan Gibbard.
“Mi gawson ni chwip o noson allan ar y traeth a pha le gwell oedd canu caneuon Porthdinllaen nag ym Mhorthdinllaen,” meddai Gwenan Gibbard, a oedd yn rhan o’r trefnu yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwerin. “Roedd o’n llwyddiant, ac mi fyddai hi’n braf iawn cynnal un arall.”
Digwydd bod, hi a fydd yn cyfeilio yn ystod y Ddawns Flodau yn y seremoni ym Mhorthmadog ddydd Sadwrn. “Mae hynny wastad yn brofiad reit arbennig i gyfeilio – dw i’n edrych ymlaen,” meddai Gwenan Gibbard.
“Rydan ni wedi aros yn hir. Rydan ni wedi dechrau codi pres ddwy flynedd yn ôl, ac wedyn cael saib hir, fel pobol Tregaron. Erbyn hyn, mae hi’r adeg berffaith i bobol ddod yn ôl at ei gilydd. Mae yn rhyw ddathliad o hynny yn ogystal â’r ffaith bod yr Eisteddfod ar y gorwel.
“Mae hi yn rhyw ddechrau cyfnod o ddifrif… Mae blwyddyn yn amser byr iawn i baratoi. A thynnu sylw o fewn yr ardal, cyfle i ddwyn pobol eraill i mewn.”
Côr yn ailgydio – wrth berfformio gyda Dafydd Iwan
Nos Wener yma (Mehefin 24) fe fydd Cyngerdd y Cyhoeddi yn digwydd yn Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli. Aled Hughes sy’n llywio’r noson ac yn cyflwyno’r gwesteion, gan gynnwys Dafydd Iwan, John Eifion, Côr yr Heli, Einir a Gwenda, Côr Telynau Gogledd Cymru, Mali Fflur, Megan Llŷn, Cai Fôn a Disgyblion Ysgol Glan y Môr.
Y delynores Gwenan Gibbard, sydd hefyd yn un o’r perfformwyr, yw arweinydd Côr yr Heli. Mae hi’n dweud y bydd yn dipyn o beth i’r côr gael cyd-ganu gyda’r dyn ei hun, Dafydd Iwan. Cafodd Côr yr Heli ei sefydlu yn arbennig ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd yn 2016.
“Mae o’n wych, a chael gorffen y cyngerdd efo ‘Yma o Hyd’ – mi fydd hynny’n yn amserol ofnadwy,” meddai Gwenan Gibbard. “Rydan ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael rhannu llwyfan efo Dafydd. A’r holl artistiaid – mae llawer o amrywiaeth yn y cyngerdd, llawer o’r ardal sydd wedi ennill yn yr Eisteddfod yn y gorffennol, a llawer o bobol ifanc.”
Mi ail-agorodd Neuadd Dwyfor ym mis Mawrth eleni ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £900,000.
“Dyma’r tro cyntaf i ni ganu fel côr ers dwy flynedd a hanner efo’n gilydd,” meddai Gwenan, “ond mae cael gwneud hynny yn y Neuadd ar ei newydd wedd yn beth braf ofnadwy.”
Amserlen y Cyhoeddi
10yb: Cwrs yn cyflwyno’r Eisteddfod i ddysgwyr yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog
11yb-1yh: Gweithgareddau i blant a phobl ifanc yn y Parc, Porthmadog
1.30yh: Dangos ffilm arbennig gan ysgolion y rhanbarth yn y Parc
2.30yh: Gorymdaith yr Orsedd drwy Stryd Fawr Porthmadog
3yh: Seremoni’r Cyhoeddi yn y Parc
- Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli o Awst 5 i 12 2023. Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6 eleni.