Bydd Gŵyl Sŵn yn dychwelyd i Gaerdydd heb unrhyw gyfyngiadau ar ei maint am y tro cyntaf ers 2019 ym mis Hydref.

Mae’r ŵyl wedi cyhoeddi’r enwau cyntaf ar y lein-yp heddiw, sy’n cynnwys Breichiau Hir, Adwaith, Eädyth & Izzy Rabey, Lemfrek a HMS Morris.

Rhwng Hydref 21 a 23, bydd 120 o artistiaid yn ymddangos mewn naw o leoliadau dros Gaerdydd, gan gynnwys Clwb Ifor Bach a Tramshed.

Mae’r ŵyl flasu yn cyflwyno cymysgedd o artistiaid newydd a rhai sefydledig o Gymru, gweddill y Deyrnas Unedig, a thu hwnt.

‘Hynod gyffrous’

Bydd noson agoriadol yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Tramshed gyda’r band BC Camplight yn dychwelyd i Gaerdydd gyda phop-synth a roc a rôl y 1950au.

Yn ymuno â nhw, mae’r band pync lleol Panic Shack.

“Mae gan Sŵn le arbennig yn ein calonnau, fe gawson ni slot yn 2019 pan oedden ni’n ffres allan o groth Shack, ar ôl chwarae dim ond llond llaw o sioeau,” meddai’r band wrth edrych ymlaen.

“Buom yn chwarae i Glwb Ifor Bach orlawn lawr grisiau ac mae’n dal i fod yn un o hoff foment y band.

“I fod yn chwarae eto eleni, yn Tramshed (!) gyda set o fwy na dim ond ein 4 cân a chwpl o covers y dechreuon ni gyda nhw yn hynod gyffrous ac ni allwn aros i’w ychwanegu at y rhestr. ”

Mae rhai o’r perfformwyr eraill o Gymru’n cynnwys Mellt, Aderyn, Ogun, Plastic Estate, Sweet Baboo, Voya a Yxngxr1.

Ymhlith yr artistiaid sy’n dod o dros y ffin, a thros y môr, mae’r band Los Bitchos o Lundain, Sea Power o Brighton, Billy Nomates o Fryste, a Bodega o Efrog Newydd.

‘Faint o fandiau sy’n ormod?’

Wrth siarad am yr ŵyl, dywedodd rheolwr byw Clwb Ifor Bach a Gŵyl Sŵn, Adam Williams: “Alla i ddim pwysleisio mor gyffrous ydw i a’r tîm yn Clwb ein bod ni’n gallu dod â Gŵyl Sŵn ’nôl yn 2022 yn ei ffurf lawn.

“Rydyn ni mor falch o gael rhannu’r don gyntaf o ŵyl 2022 gyda chi. Mae trefnu’r lein-yp bob amser yn bleser, ac rydyn ni’n dal i gael ein synnu rywsut gan faint o artistiaid newydd sydd bob blwyddyn.

“Mae’n dipyn o gamp eu cynnwys nhw i gyd ar y bil. Faint o fandiau sy’n ormod?

“Mae’r ŵyl bob amser wedi arddangos y rhai rydyn ni’n credu yw’r bandiau a fydd ar frig lein-yps gwyliau’r dyfodol, a bydd yn parhau i wneud hynny, gan gynnwys artistiaid o Gymru ac yn artistiaid rhyngwladol.

“Eleni, bydd canol Caerdydd yn croesawu dros 120 o artistiaid ar draws naw safle. Paratowch am leoliadau newydd, wynebau cyfarwydd, a llond y lle o binc!”