Mae Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli wedi ailagor yn llawn heddiw (dydd Iau, Mawrth 10) yn dilyn cyfnod o adnewyddu gwerth £900,000.

Roedd y llyfrgell gyhoeddus wedi agor unwaith eto fis diwethaf, ond mae’r gwaith bellach wedi ei gwblhau ar y theatr a’r sinema sydd yn y ganolfan hefyd.

Dechreuodd y gwaith adnewyddu yn hwyr yn 2020, gyda Chyngor Gwynedd a grantiau Llywodraeth Cymru yn cyllido’r prosiect, sydd hefyd yn cynnwys gofodau amlbwrpas ac ystafelloedd cyfarfod newydd.

Sioe o’r enw The Many Lives of Amy Dillwyn gan y cwmni theatr Cymreig, Lighthouse Theatre, fydd y cyntaf i ymddangos ar lwyfan Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd.

Fe fydd y cynhyrchiad hwnnw, sy’n cael ei ddangos am yr unig dro heno, yn olrhain bywyd y swffragét, diwydiannwr a’r dyngarwr, gyda’r actores Sonia Beck yn chwarae’r brif rôl.

Yn ddiweddarach yn y mis, bydd Cwmni Theatr Fran Wen yn llwyfannu’r cynhyrchiad Cymraeg cyntaf yn y theatr ers cyn y pandemig, gyda pherfformiadau o Ynys Alys  (Mawrth 22 a 23).

‘Canolbwynt bywiog’

Mae’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, wedi bod yn sôn am y gwaith a gafodd ei gwblhau dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

“Mae Neuadd Dwyfor wedi gweld gwelliannau sylweddol i du mewn yr adeilad gyda chyntedd a bar caffi newydd yn croesawu ymwelwyr yn ôl i’r Theatr a’r Sinema, a bar a lolfa newydd i fyny’r grisiau,” meddai.

“Mae seddi newydd wedi’u gosod yn yr awditoriwm a’r balconi uchaf gyda lle i 222 gan gynnwys dau le dynodedig i gadeiriau olwyn.

“Agorodd y Llyfrgell wedi’r adnewyddiad ar y llawr gwaelod ym mis Chwefror, a byddwn yn annog unrhyw un sydd heb fod yno i ymweld â’r adeilad ar ei newydd wedd.

“Bydd gwaith adfer pellach yn parhau eleni ar yr adeilad brics coch hanesyddol.

“Y gobaith yw y bydd Neuadd Dwyfor yn datblygu i fod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn Llŷn, ac y bydd hefyd yn gwasanaethu fel canolbwynt cymunedol sy’n rhoi bywyd newydd i dref Pwllheli.”

Croeso nôl

Ceridwen Price yw Swyddog Celfyddydau Perfformiadau Neuadd Dwyfor, ac mae hi’n edrych ymlaen at gael ailagor y ganolfan yn llawn.

“Fel staff, rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i groesawu defnyddwyr hen a newydd yn ôl i Neuadd Dwyfor,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod bod pobol wedi methu’r sinema a chynyrchiadau llwyfan yn arbennig.

“Gobeithiwn y bydd pawb yn hoffi’r newidiadau sydd wedi eu gwneud, tra’n dal i gadw’r cymeriad cartrefol ac unigryw hwnnw y mae pobol yn ei garu ac yn ei werthfawrogi yn Neuadd Dwyfor.”

Gwaith bron â chael ei gwblhau ar ganolfan gymunedol Pwllheli

Bydd Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod a gofodau aml-bwrpas i drigolion lleol
Neuadd Dwyfor

Y gwaith o uwchraddio Neuadd Dwyfor wedi dechrau

Bydd y gwaith ym Mhwllheli’n costio £850,000