Mae’r gwaith ar fin cael ei gwblhau ar un o ganolfannau tref Pwllheli, sydd wedi bod ar gau ers diwedd 2020.

Dros y cyfnod hynny, mae gwelliannau gwerth £900,000 wedi cael ei wneud i Neuadd Dwyfor, sy’n cynnwys llyfrgell gyhoeddus, theatr a sinema i drigolion lleol.

Gyda’r arian a gafodd ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd a thrwy grantiau Llywodraeth Cymru, mae’r llyfrgell wedi cael ei ailddylunio’n llwyr ac mae gofod mwy pwrpasol wedi ei gyflwyno ledled yr adeilad.

Bydd y gofodau amlbwrpas ac ystafelloedd cyfarfod newydd yn caniatáu i bobol weithio yn y ganolfan, yn hytrach na gorfod llogi swyddfa yn y dref.

Y bwriad yw ailagor y llyfrgell i’r cyhoedd ar ddydd Llun, Chwefror 14, tra bydd goleuadau’r theatr a’r sinema yn cael eu cynnau unwaith eto yn yr wythnosau dilynol.

Ailagor

“Rydyn ni’n gwybod fod pobol wedi aros yn amyneddgar ar gyfer ailagor Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd, ac rydyn ni’n falch fod y rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i gwblhau,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd.

Gwaith ar y gweill yng nghyntedd yr adeilad ym mis Mai 2021

“I ddechrau, fe fydd y llyfrgell a’r ardal cyntedd newydd yn Neuadd Dwyfor yn agor, gyda gwaith manion i orffen yn y theatr a’r sinema.

“Fe fydd y llyfrgell ar ei newydd wedd yn cynnig yr un ystod o wasanaeth yn y llyfrgell, gan gynnwys benthyca pob math o lyfrau, defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus a Wi-Fi, a bydd gennyn ni hefyd adran blant newydd sbon a fydd yn ofod delfrydol ar gyfer amseroedd stori a sesiynau rhigwm a chân i fabanod.

“Byddwn yn cyhoeddi manylion am ein hamseroedd stori ar ein tudalennau Facebook a Twitter, ynghyd a sut i gofrestru.

“Yn ogystal, fe fydd yna wefan newydd Neuadd Dwyfor ar gael cyn hir, i gyd-fynd gyda’r rhaglen amrywiol a diddorol, a chyfle i bawb mwynhau diod a sioeau yn y lolfeydd newydd braf.”

‘Hapus iawn gyda’r gwelliannau’

Dywed Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd, y bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud drwy gydol y flwyddyn, ond y bydd yr adeilad yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd.

Y gwaith yn agosáu at ei derfyn

“Mae ein staff yn hapus iawn gyda’r gwelliannau sydd wedi digwydd hyd yma yn Neuadd Dwyfor, ac yn falch iawn bod yr adeilad rhestredig hynafol wedi gweld buddsoddiad i wella’r cyfleusterau sydd yno,” meddai.

“Tra’n bod ni’n edrych ymlaen yn arw i ailagor Neuadd Dwyfor, fe fydd yna waith yn parhau yn 2022 – ond ni fydd hynny yn amharu ar fwynhad y cyhoedd o’r adeilad.

“Bydd drysau mynedfa newydd yn cael eu gosod, a bydd gwaith atal damprwydd yn cael ei gwblhau er mwyn gofalu am yr adeilad am y blynyddoedd i ddod.

“Bydd gwaith pellach yn cael ei gwblhau i’r waliau allanol er mwyn sicrhau fod yr adeilad coch hyfryd yma yng nghanol tref Pwllheli yn sefyll ac yn ffynnu am y can mlynedd nesaf.”

 

Y gwaith o adnewyddu Neuadd Dwyfor yn derbyn hwb ychwanegol

“Mae Neuadd Dwyfor yn lleoliad pwysig i drigolion Llŷn a’r cyffiniau ac mae hen edrych ymlaen at weld yr adeilad wedi’r gwaith uwchraddio”
Neuadd Dwyfor

Y gwaith o uwchraddio Neuadd Dwyfor wedi dechrau

Bydd y gwaith ym Mhwllheli’n costio £850,000