Mae Neuadd Dwyfor, Pwllheli, wedi derbyn hwb ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio’r adeilad.

Maent eisoes wedi cael buddsoddiad sylweddol i wella cyfleusterau’r Neuadd gan Gyngor Gwynedd ac mae gwaith adnewyddu eisoes ar y gweill.

Daw hyn wrth i sinemâu ailagor ledled Cymru yn sgil llacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Gyda gwaith gwerth bron £900,000 i wella’r cyfleusterau, bydd Theatr a Sinema Neuadd Dwyfor yn parhau ar gau am y tro.

Manylion y Gwaith

Bydd gwaith uwchraddio yn digwydd i’r cyntedd, creu toiled hygyrch, a gwella’r seddi yn yr awditoriwm a’r balconi ymhlith pethau eraill.

Mae gwaith yn digwydd hefyd ar greu gwefan newydd a delwedd newydd sbon i Neuadd Dwyfor a fydd yn cael eu lansio yn yr wythnosau nesaf.

Bydd hyn cyn ail-agor y Llyfrgell ar ei newydd wedd yn gyntaf ac yna’r Theatr a’r Sinema yn hwyrach yn yr hydref.

Gwaith yn cael ei wneud ar gyntedd Neuadd Dwyfor

“Lleoliad pwysig”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae Neuadd Dwyfor yn lleoliad pwysig i drigolion Llŷn a’r cyffiniau ac mae hen edrych ymlaen at weld yr adeilad wedi’r gwaith uwchraddio sy’n bwrw ymlaen ar hyn o bryd.

“Rydym hefyd yn falch o fod wedi denu grant adfywio ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn ein galluogi i gynnig ardaloedd gweithio hyblyg yn Neuadd Dwyfor, yn cynnwys gallu llogi dwy ystafell gyfarfod fel man gwaith neu swyddfa dros dro yn ystod y dydd.

“Ein nod fel Cyngor ydi y bydd prosiect gwella Neuadd Dwyfor yn fuddsoddiad a fydd yn cyfrannu at adfywiad y stryd fawr yn nhref Pwllheli, ac yn dod yn ganolbwynt i weithgarwch diwylliannol yr ardal.”