Mae S4C wedi cyhoeddi mai Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd y sianel.

Bydd hi’n cychwyn ei swydd newydd ym mis Medi.

Yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach wedi ymgartrefu yn Efail Isaf, mae gan Sioned dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau.

Cychwynnodd ei gyrfa yn Adran Blant ac Adloniant HTV, cyn gweithio ar amryw o raglenni plant gan gynnwys Uned 5, Mosgito, Bôrd, Y Rhaglen Wirion ‘Na, Stwffio, ‘Step Inside’ i  C’beebies ac yn ddiweddar Anifeiliaid Bach y Byd i Cyw.

Chwaraeodd rôl bwysig yn sefydlu’r gyfres i ddysgwyr, Cariad@iaith, a bu’n gynhyrchydd i’r gyfres Welsh in a Week am rhai blynyddoedd.

Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel Cynhyrchydd Cyfres ac Uwch-gynhyrchydd llawrydd a newydd orffen gweithio ar y gyfres adloniant ffeithiol Cymry ar Gynfas i S4C.

“Edrych ymlaen”

”Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i gael cynnig y swydd hon ac i ymuno â thîm comisiynu S4C,” meddai Sioned Geraint.

“Mae cael gweithio yn y Gymraeg yn rhywbeth sy’n bwysig tu hwnt i mi ac yn agos iawn at fy nghalon.

“Dwi’n edrych ymlaen at ychwanegu at y cynnwys arbennig sy’n bodoli eisoes ac at greu cyfleoedd i’r sector annibynnol greu cynnwys Cymraeg ar gyfer gwahanol blatfformau.

“Yn sicr dwi wedi dod i ddeall pwysigrwydd a phŵer darlledu plant yn yr iaith Gymraeg ers dod yn fam rai blynyddoedd yn ôl ac os fedrai adeiladu ar hynny yn y byd digidol sydd ohoni mi fyddai’n hapus.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ddechrau ar y gwaith.”

“Dealltwriaeth eang o’r maes”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Mae’n wych gallu croesawu Sioned i ymuno â’n tîm comisiynu ar ôl gyrfa ddisglair ym maes cynhyrchu rhaglenni plant a dysgwyr.

“Mae ganddi ddealltwriaeth eang o’r maes ac mae’n braf ei bod wedi bod yn rhan mor allweddol o rai o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y sianel.

“Edrychaf ymlaen at ei chroesawu.”