Mae Celfyddydau Pontio wedi lansio prosiect newydd fydd yn dathlu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac Ewrop.

Mae’r prosiect wedi’i ysbrydoli gan gynllun ‘Blwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021’ Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r prosiect, bydd cyfres o ffilmiau byrion gan artistiaid o Gymru, o gerddorion i artistiaid celf, sy’n byw a gweithio ym mhob cwr o Ewrop yn cael eu dangos.

Mae’r fideo cyntaf ar Instagram, YouTube a Sianel Pontio ar wefan ac ap AM, a gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Gwener, Mai 21), yn rhoi sylw i Steven Emmanuel, artist o Dowyn sy’n byw yn Nürnberg yn yr Almaen.

Fe adawodd e Gymru yn 2000 i fynd i astudio ym Mhrifysgol Brighton a’r Royal College of Art yn Llundain, ac fe symudodd e i’r Almaen yn 2011.

Cysylltiadau diwylliannol

Yn ogystal â bod yn llwyfan ar gyfer gwaith artistiaid a rhoi cip ar eu bywyd a’u gwaith y tu hwnt i wledydd Prydain, bwriad y cynllun yw meithrin cysylltiadau diwylliannol gan ddathlu’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar y llwyfan Ewropeaidd.

Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynnal cysylltiadau rhyngwladol yn sgil Brexit.

Bydd un fideo yn cael ei gyhoeddi bob mis.

“Mae prosiect ‘Cymru yn Ewrop’ yn un sydd yn dynodi Pontio fel canolfan gelfyddydol sydd â rhagolygon rhyngwladol ond sydd wedi ei wreiddio yn lleol,” meddai Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Artistig Celfyddydau Pontio.

“Mae’n holl bwysig ein bod yn parhau i ddathlu diwylliannau gwahanol a sut mae diwylliant Cymru yn eistedd oddi fewn ac yn ochr yn ochr â diwylliannau arall.

“Dwi’n gyffrous iawn i weld beth sydd ar y gweill.”

Mae modd gwylio fideo Steven Emmanuel yma: https://youtu.be/TYslLfpqXjg.