Mae’r gwaith o uwchraddio Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, fydd yn costio £850,000, wedi dechrau.
Fel rhan o’r gwaith a fydd yn cael ei gwblhau gan y cwmni lleol TIR, bydd cyfleusterau’r theatr a’r llyfrgell yn cael eu gwella, gan gynnwys gosod seddi mwy modern a gwella’r ystafelloedd cyfarfod, yn ogystal â chreu gofod gweithio newydd i staff.
Yn y llyfrgell, bydd y fynedfa’n cael ei gwella a bydd toiled hygyrch yn cael ei osod, a bydd y cyntedd yn cael ei adnewyddu.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd yn cynnig “gwell profiad i ymwelwyr”.
“Mae potensial anhygoel i Neuadd Dwyfor fod yn ganolfan gymunedol ddiwylliannol a chelfyddydol o’r radd flaenaf,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Ddatblygu’r Economi.
“Mae potensial anhygoel i Neuadd Dwyfor fod yn ganolfan gymunedol ddiwylliannol, a chelfyddydol o’r radd flaenaf.
“Rydw i felly yn falch iawn o weld y gwaith adnewyddu yn dechrau ar y gofod perfformio, sinema a’r llyfrgell yn Neuadd Dwyfor.
“Mae’r safle yn un pwysig iawn i bobl yr ardal ac ymwelwyr i’r ardal, nid yn unig fel cyrchfan ar gyfer mwynhau y celfyddydau, ond hefyd wrth gyflogi 13 o staff a chefnogi nifer o fusnesau lleol yn yr ardal.
“Wrth wella’r adnoddau, rydan ni’n gobeithio y bydd pobl Pwllheli, Llŷn a’r cylch yn gwneud y mwyaf o’r Neuadd Dwyfor newydd ac elwa ar y gwelliannau pan fydd yr adeilad yn ail-agor yr haf nesaf.
“Yn y cyfamser, rydym yn edrych ymlaen i weithio’r gymuned leol dros y misoedd nesaf i drafod y rhaglen newydd ar gyfer Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd.”