Mae Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w swydd.

Ar ôl 13 blynedd yn y swydd bydd yn camu lawr ddiwedd Haf 2021.

Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Arts Council England ar gyfer rhanbarth De-orllewin Lloegr.

‘Braint ac yn bleser’

“Mae gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn fraint ac yn bleser,” meddai Nick Capaldi.

“Rwyf wedi cwrdd â llu o artistiaid ac unigolion creadigol arbennig iawn ac wedi cael fe synnu’n barhaus gan yr ysbrydoliaeth yn y celfyddydau yng Nghymru a’u hansawdd.

“Mae effaith y pandemig Covid-19 wedi mynnu fy holl sylw ac rwyf wedi treulio’r rhan helaethaf o’r flwyddyn ddiwethaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu’r celfyddydau yng Nghymru.

“Erbyn diwedd yr Haf nesaf rwy’n ffyddiog y bydd gweithgaredd cyhoeddus wedi ailddechrau ac y bydd y celfyddydau’n ffynnu unwaith eto.

“Felly, rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser priodol i rywun newydd gymryd yr awenau a chyflwyno syniadau newydd er mwyn mynd i’r afael â’r heriau gwahanol sydd i ddod.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £53m yn y sector i helpu unigolion a chyrff i ymdopi â’r argyfwng coronafeirws,

‘Gwas cyhoeddus rhagorol’

Yn ôl Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Nick Capaldi wedi chwarae “rhan allweddol o ran sicrhau eu ffyniant.”

“Mae’n was cyhoeddus rhagorol – o ran ei uniondeb, ei ymrwymiad dwfn a diflino a’i grebwyll cadarn a threiddgar,” meddai.

“Yn anad dim, mae’n gwirioni ar greadigrwydd artistiaid ac mae ganddo angerdd tuag at sicrhau bod profiad trawsnewidiol o’r celfyddydau yn cyrraedd cyfran ehangach o’r cyhoedd.

“Mawr yw ein dyled iddo a byddwn yn ei anrhydeddu yn y ffordd orau, sef drwy barhau’n ddygn â’r gwaith y mae wedi’i wneud mor rhagorol.”