Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gyfrifol am ariannu a chefnogi’r celfyddydau yng Nghymru, wedi agor ei gronfa adfer diwylliannol i helpu sefydliadau i oroesi wrth iddyn nhw wynebu pwysau ariannol o ganlyniad i’r pandemig.
Bydd modd i sefydliadau fel theatrau, sinemâu, canolfannau celfyddydol, safleoedd treftadaeth a gwasanaethau eraill wneud cais am gefnogaeth ariannol o ddydd Llun (Awst 17).
Gall y sefydliadau hyn fod yn rhai dielw neu fasnachol ond rhaid iddynt ddangos eu bod yn cynnig gweithgarwch celfyddydol a bod y coronafeirws wedi effeithio arnynt yn sylweddol.
Fel rhan o gronfa argyfwng £53m Llywodraeth Cymru, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn buddsoddi £27.5m, sef £25.5m o arian refeniw a £2m o arian cyfalaf.
“Angen yn ddirfawr”
“Roedd y cyhoeddiad bythefnos yn ôl o gronfa adfer diwylliant gwerth £53 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y celfyddydau i’n llesiant cenedlaethol a’n heconomi greadigol”, meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Bydd yr arian yn helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol i rwystro’r hwch rhag mynd drwy’r siop. Rhaid inni gynnal y celfyddydau fel crewyr llawenydd, dychymyg a chydlyniant cymdeithasol.
“Bydd arnom eu hangen yn ddirfawr wrth inni symud ymlaen o’r pandemig.”
‘Achub sefydliadau celfyddydol Cymru’
Oherwydd ymbellhau cymdeithasol eglurodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru mai’r celfyddydau fydd un o’r meysydd olaf i ddychwelyd ar ôl y cyfnod cloi.
“Mae’n amlwg y bydd ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod y celfyddydau yn gyffredinol, a pherfformio’n enwedig, yn debygol o fod yn un o’r meysydd olaf i ddychwelyd atom ar ôl y cyfnod cloi.
“Dyma’r rhandaliad diweddaraf mewn pecyn parhaus o gymorth ariannol i amddiffyn bywyd diwylliannol Cymru.
“Mae’r arian yn fodd i achub sefydliadau celfyddydol Cymru nes y gallant ein croesawu’n ôl i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.
“Ond nid yw hyn yn fater o droedio dŵr yn unig nes inni ailafael yn hen ogoniant y gorffennol.
“Y wers o’r coronafeirws yw bod yn rhaid inni greu rhywbeth gwell a chryfach a bod yn fwy cynhwysol. Nid amddiffyn yn unig yw ein nod yma.
“Rhaid inni greu dyfodol newydd lle mae gweithgarwch diwylliannol yn cyrraedd rhagor o bobl ledled Cymru.”
Bydd y gronfa’n cael ei gweinyddu ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Y cyngor fydd yn gyfrifol am reoli’r arian ar gyfer, theatrau, canolfannau celfyddydol, orielau a neuaddau cyngerdd.
Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am reoli’r arian ar gyfer safleoedd treftadaeth, sinemâu annibynnol, a gwasanaethau eraill.