Mae cwmni theatr o Gaerdydd wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Gŵyl Ryngwladol Good The@tre.
Cwmni Hijinx enillodd wobr y Cyfarwyddwr Gorau ac un arall am y Defnydd Mwyaf Arloesol o Dechnoleg ar gyfer perfformiad digidol ar lein, Metamorphosis a gafodd ei ysbrydoli gan nofel fer glasurol Franz Kafka.
Perfformiwyd Metamorphosis am y tro cyntaf yng ngŵyl ddigidol ar-lein y Dyn Gwyrdd.
Daeth cynulleidfaoedd o dros 30 o wledydd ledled y byd ynghyd ar-lein i weld artistiaid yn perfformio yn y digwyddiad rhyngwladol.
‘Camu i fyd anghyfarwydd’
Eglurodd y cyfarwyddwr Ben Pettitt-Wade mai arbrawf oedd Metamorphosis yn wreiddiol i ail-greu natur ryngweithiol cynyrchiadau’r cwmni ar-lein.
“Yn ôl ym mis Mai, roeddem ni’n camu i fyd anghyfarwydd pan ddechreuon ni archwilio p’un a fyddai’n bosibl gwneud sioe fyw, ryngweithiol ar Zoom,” meddai.
“Ein cast a’n criw gwych sy’n gyfrifol am lwyddiant y sioe, wnaeth ymroi yn llwyr i’r dasg, a mwynhau bod yn greadigol yn y cyfnod tywyll hwn.”
Mae’r wobr ariannol o £750 am y ddwy wobr wedi cael ei rhoi’n ôl i’r digwyddiad i gefnogi’r achos.
“Mae’r pandemig hwn wedi effeithio ar y celfyddydau ym mhob cwr o’r byd, ac yn anffodus, y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio waethaf yn ystod y cyfnod hwn yw ein gweithwyr llawrydd, sy’n rhan annatod o’n diwydiant,” meddai Ben Pettitt-Wade wedyn.
“Un o’r rhesymau y gwnaethom ni greu’r prosiect hwn oedd i allu darparu cyflogaeth ar gyfer ein teulu ein hunain o weithwyr llawrydd tra bydd ein theatrau ar gau.
“Felly, rydym ni’n falch iawn fod y darn y gwnaethom ni ei greu wedi gallu cefnogi artistiaid yn India sydd ag angen dirfawr am gymorth.”
Gwyliwch ragflas o Metamorphosis yma: