Mae cais cynllunio i drawsnewid y ganolfan hamdden yn Llanbed wedi cael ei gymeradwyo er gwaethaf pryderon yn lleol.

Cafodd y cais i newid tu mewn y ganolfan ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o gynllun Hybiau Lles y sir, ac fe wnaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu’r Cyngor ei drafod ddoe (dydd Mercher, Mawrth 9).

Bydd ystafelloedd newydd yn cael eu creu ar y llawr gwaelod, gan gynnwys ystafell ffitrwydd newydd, stiwdio ar gyfer dosbarthiadau sbin, ac ystafelloedd ymgynghori.

Gan fod y cynlluniau’n cynnwys creu gofodau newydd yn y ganolfan, byddai’n rhaid lleihau maint y brif neuadd chwaraeon i wneud lle iddyn nhw, ac mae hynny wedi codi gwrychyn rhai cynghorwyr a thrigolion lleol.

Pryderon

Roedd Cyngor Tref Llanbed, yn ogystal â thîm pêl-rwyd ac o leiaf 18 o drigolion y dref, eisoes wedi gwrthwynebu’r cynlluniau.

Er nad ydyn nhw’n rhan o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fe wnaeth y cynghorwyr sir Ivor Williams a Hag Harries ddatgan gwrthwynebiad hefyd.

Cafodd y pwyllgor wybod mai’r newid i du allan yr adeilad oedd “yr unig ystyriaeth cynllunio materol”, ac nad oedd angen caniatâd i newid y tu mewn.

Dywedodd swyddogion hefyd y gallai clybiau lleol ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol yn lle’r neuadd chwaraeon.

“Serch cydnabod y bydd peth darpariaeth chwaraeon dan do’n cael ei golli yn sgil lleihau maint y neuadd chwaraeon, teimlir bod y buddiannau ehangach o ran iechyd a lles yr holl drigolion – meddyliol, corfforol, cymdeithasol, ac ati – a ddaw yn sgil y newidiadau mewnol yn gorbwyso’r pryderon hyn yn sylweddol,” meddai’r adroddiad cynllunio.

Cafodd y cais ei gymeradwyo gyda deg pleidlais o blaid, a dau yn ymatal.

“Sefyllfa amhosib” yn wynebu cynllun Canolfan Les Llambed

Katy Jenkins, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae trafodaethau wedi cyrraedd rhwystrau oherwydd nad yw manylion y cynllun yn bodloni rhai