Mae trafodaethau ynghylch creu Canolfan Les newydd yn Llambed yn cyrraedd “sefyllfa amhosib”, yn ôl cynghorydd sir lleol.
Byddai’r ganolfan yn rhan o gynllun Hybiau Lles y sir, ac yn cael ei lleoli yng Nghanolfan Hamdden Llambed.
Dyma fyddai’r gyntaf o’i math yn y sir, a byddai’n darparu gwasanaethau hamdden er mwyn gwella llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol trigolion lleol.
Yn dilyn trafodaethau gyda chlwb pêl-rwyd lleol a swyddogion sy’n gweithio ar y ganolfan newydd, dywed y Cynghorydd Hag Harris fod gofynion yn “methu â chael eu bodloni.”
Dim datrysiad
Fe gafodd y pwyllgor trosolwg a chraffu cymunedau iachach eu diweddaru ynglŷn â’r cynlluniau mewn cyfarfod fis diwethaf.
Fe wnaeth y Cynghorydd Hag Harris ailadrodd ei bryderon o’r cyfarfod hwnnw mewn cyfarfod diweddarach ddydd Mercher, 20 Hydref.
Dywedodd y bydd hi’n “anodd ffeindio ffordd allan o hyn nawr” gan y bydd maint y neuadd chwaraeon newydd yn rhy fach i ofynion y clwb pêl-rwyd lleol.
Mae’n debyg nad oedd y pwyllgor yn ymwybodol o hynny yn nyddiau cynnar y cyfnod cynllunio.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd pethau’n datblygu a bydd trafodaethau’n sortio pethau, ond rydyn ni’n cyrraedd sefyllfa amhosib oni bai bod cyfaddawdu’n digwydd,” meddai Hag Harris.
Fe wnaeth cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Bryan Davies, ddweud bod trafodaethau’n parhau, a’i “bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cadw i gyfathrebu tan y diwedd un.”