Mae golwg360 yn deall bod Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, wedi’i gwahardd rhag gyrru am chwe mis.
Cafodd ei gwahardd wedi iddi groesi’r trothwy pwyntiau ar ei thrwydded.
Mae’n debyg ei bod hi wedi gyrru dros 30m.y.a. ar ffordd A525 yn Wrecsam fis Mehefin y llynedd.
Cafodd ei gwahardd yn ei habsenoldeb yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddoe (dydd Mercher, Mawrth 16).
Cafodd Eluned Morgan, sydd hefyd yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ei hethol yn aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a’r Gorllewin ym Mai 2016.
Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, cyn symud i fod yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn 2018.
Ac yna ym mis Mai 2021, symudodd eto i fod yn gyfrifol am Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd Eluned Morgan AoS: “Rwyf wedi pledio’n euog i gyhuddiad o oryrru ac rwy’n derbyn cosb y llys yn llawn.
“Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf yn falch ohono ac ymddiheuraf yn ddiamod.”