Ar drothwy Datganiad Gwanwyn y Canghellor Rishi Sunak yn San Steffan, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am dorri’r dreth ar danwydd er mwyn helpu teuluoedd sy’n wynebu argyfwng costau byw yn sgil y cynnydd ym mhris petrol ac olew.

Yn ôl Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, byddai gostwng prisiau’n helpu pobol i gadw mwy o’u harian, ac yn eu galluogi nhw i gynilo mwy ar gyfer gwariant allweddol arall.

Byddai hefyd yn hwb i’r economi wrth i fusnesau gael aros yn gystadleuol heb wario swm sylweddol o arian i sicrhau tanwydd digonol i lenwi eu cerbydau.

Daw hyn wrth i’r sancsiynau yn erbyn Rwsia am ymosod ar Wcráin, sy’n cynnwys galw am ddadfuddsoddi yn y wlad, arwain at gynnydd mewn prisiau ar adeg pan fo mwy o alw am ynni ar draws y byd.

Galwad y Ceidwadwyr Cymreig

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, byddai eu galwad yn gweld prisiau tanwydd yn cael eu sefydlogi, gyda threthi’n gostwng wrth i brisiau gynyddu.

Maen nhw’n dadlau y byddai cyfran y Dreth Ar Werth (TAW) mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei chymryd o gynyddu costau’n gwneud yn iawn am lai o dreth, ac yn helpu cwsmeriaid ar yr un pryd.

Yn y cyfamser, maen nhw’n dweud bod gan weithwyr yng Nghymru £59.60 yn llai o gyflog na gweithwyr yn yr Alban ers dechrau datganoli 23 o flynyddoedd yn ôl, er bod y swm yn debyg iawn yn 1999, ac maen nhw’n dweud mai gweithwyr Cymru sydd â’r swm lleiaf o arian i’w wario o blith gwledydd y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn gwybod fod y galw cynyddol am ynni ar draws y byd yn creu argyfwng costau byw ac na fydd y rhyfel economaidd gan y Gorllewin yn erbyn Rwsia am eu gweithredoedd anghyfreithlon yn Wcráin yn gwneud pethau’n haws,” meddai Peter Fox.

“Ond dydy’r frwydr dros ryddid ddim yn rhad ac am ddim, a rhaid i ni wneud ein gorau i ynysu pobol Prydain rhag y gwaethaf. Os na wnawn ni hynny, rydym mewn perygl o golli eu cefnogaeth ym mrwydr y genhedlaeth hon yn erbyn gorthrwm.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod Datganiad Gwanwyn y Canghellor yn cynnig y cyfle cywir i warchod cyllideb gynyddol dynn teuluoedd a busnesau, ac mae modd gwneud hyn drwy dorri’r dreth ar danwydd yn raddol.

“Mae hwn yn ddull cytbwys sy’n rhoi i drethdalwyr a’r Trysorlys rywbeth i helpu i oresgyn gwyntoedd ôl-bandemig ac economaidd, rhywbeth sydd ei angen arnom yng Nghymru yn fwy nag unrhyw le arall ar ôl dau ddegawd o fethiant Llafur i roi hwb i gyflogau.

“Yna, pan fydd y gwrthdaro ofnadwy hwn yn Wcráin ac mae Putin yn cael ei gosbi am ei droseddau yn erbyn y ddynoliaeth, gallwn ddweud yn hyderus ac yn falch ein bod ni wedi dal ati ac wedi chwarae ein rhan wrth warchod rhyddid yn Ewrop, a’i fod wedi dod yn haws yn sgil gweithredoedd llywodraeth Geidwadol.”