Mae unrhyw sôn am adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn “beryglus a phryderus”, yn ôl llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.
Daw sylwadau Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi i Downing Street wrthod diystyru’r posibilrwydd y gallai’r Deyrnas Unedig adael y Confensiwn er mwyn iddyn nhw allu alltudio ceiswyr lloches i Rwanda yn haws.
Fodd bynnag, mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn dweud bod ei llywodraeth yn benderfynol o barhau â’r cynllun.
Mae’r Llys Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn llys rhyngwladol yn Strasbourg yn Ffrainc sy’n gwarchod hawliau gwleidyddol a hawliau sifil – hawliau a gafodd eu sefydlu dan gytundeb y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (EHCR) ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Does a wnelo’r Confensiwn ddim byd â’r Undeb Ewropeaidd, felly mae gofyn i’r Deyrnas Unedig gadw at y rheolau er gwaethaf Brexit.
‘Peryglus tu hwnt’
Yn ystod sesiwn friffio ar ôl Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, gofynnwyd wrth ei lefarydd a allai’r Deyrnas Unedig adael yr ECHR.
“Rydyn ni’n ystyried pob opsiwn gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau cyfreithiol pellach a allai fod eu hangen,” meddai wrth ateb.
“Byddwn ni’n edrych ar y ddeddfwriaeth a’r prosesau i gyd yn y rownd hon.”
Wrth ymateb, dywed Sioned Williams fod sôn am adael y Confensiwn yn peri pryder gan ei fod yn “arwydd o agwedd Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd tuag at hawliau dynol”.
“Rydyn ni’n gwybod hefyd, o safbwynt Cymru bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn cael ei gwarantu gan yr ECHR ac mae’n greiddiol i ddatganoli a’r fath o Gymru rydyn ni am ei gweld, a’r fath o Gymru y mae yna gonsensws amdani,” meddai wrth golwg360.
“O ran ein dyhead ni i ddod yn genedl noddfa, mae hynny wedi dod yn amlwg iawn yn ystod yr argyfwng lle mae pobol wedi bod yn dangos eu cefnogaeth i’r cysyniad a’r egwyddor yna. Byddai unrhyw newid yn gwbl groes ac yn tanseilio sylfaen cenedl noddfa.
“Mae’r hyn sy’n cael ei sôn amdano fe’n beryglus tu hwnt, ac ymhellach yn tanseilio’r hyn rydyn ni’n eu gwneud yng Nghymru o ran ein deddfwriaeth ni ar hawliau plant, ac o ran llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae yna ddarnau penodol ac unigryw o gyfraith Cymru wedi’u cysylltu’n uniongyrchol gyda’r ECHR.”
Mae hi’n anghyffredin iawn i wledydd adael y Confensiwn – fe wnaeth Groeg adael dros dro ar ôl coup milwrol, ac mae disgwyl i Rwsia adael ar ôl iddyn nhw ymosod ar Wcráin. Dydy Belarws ddim yn rhan o’r Confensiwn chwaith.
Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, wnaeth sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon, yn ddibynnol ar y Deyrnas Unedig yn aros yn y Confensiwn, ac mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gadw at y Confensiwn fel rhan o’r Cytundeb Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Mesur Hawliau Dynol Cymreig
Mae Sioned Williams yn galw am Fesur Hawliau Dynol Cymreig er mwyn diogelu aelodau mwyaf bregus a diamddiffyn cymdeithas.
“Mae yna gonsensws am hyn, ac mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn sôn bod hyn yn ddyhead gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhywbeth y mae Plaid Cymru’n amlwg yn ei gefnogi’n gryf,” meddai.
“Wrth i ni weld tro ar ôl tro nifer o filiau sydd yn tanseilio hawliau dynol, fel y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau a’r diwygiadau arfaethedig i’r Ddeddf Hawliau Dynol, be’ rydyn ni moyn ei weld yng Nghymru yw Bil Hawliau Cymreig fyddai’n rhoi i ni’r grym i fedru ymgorffori confensiynau’r Cenhedloedd Unedig mewn i’n cyfraith ni.
“Byddai hynny’n creu amddiffyniad a chymdeithas fwy teg – y math o gymdeithas rydyn ni am ei gweld.”
‘Tanseilio cyfraith Cymru’
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Mehefin 15), dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, fod ymosodiadau San Steffan ar hawliau dynol yn tanseilio deddfau Cymreig hefyd.
“Mae gweinidogion Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] o’r Prif Weinidog lawr yn dangos eu drwgdeimlad tuag at y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gyson,” meddai.
“Mae’r achos hwn yn rhan o hynny.
“Mae’r Confensiwn yn hollbwysig i gyfraith Cymru, er enghraifft y Mesur Plant a Phobol Ifanc.”
‘Siomedig ac yn syndod’
Yn Nhŷ’r Cyffredin, fe wnaeth Priti Patel amddiffyn eu polisi alltudio gan ddweud bod dyfarniad y Llys Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn “siomedig ac yn syndod”.
“Rydyn ni’n credu ein bod ni’n cadw at ofynion domestig a rhyngwladol, ac mae’r paratoadau ar gyfer hediadau yn y dyfodol a’r hediadau nesaf wedi dechrau yn barod,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref.
“Wnawn ni ddim aros yn llonydd a gadael i gangiau troseddol cyfundrefnol, sy’n ffiaidd eu natur a’u ffordd – pobol ddrwg – drin pobol fel cargo.
“Wnawn ni ddim derbyn nad oes gennym ni’r hawl i reoli ein ffiniau.”
Bydd barnwyr yn y Llys Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ystyried a yw’r polisi Rwanda yn gyfreithlon fis nesaf.