Mae llai o staff Cyngor Caerffili nag erioed o’r blaen yn dysgu Cymraeg, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl adroddiad Safonau Iaith Gymraeg ar gyfer 2021-22, dim ond 35 allan o fwy nag 8,000 aelod o staff yn y Cyngor oedd wedi cofrestru am wersi Cymraeg yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, wrth y Cabinet heddiw (dydd Mercher, Mehefin 15) y gallai’r pandemig Covid-19 a staff yn addasu i weithio o adref egluro’r gwymp mewn niferoedd.
£2,209 oedd y gost o gefnogi staff i fynd i wersi Cymraeg yn y gweithle ar gyfer y flwyddyn.
Ond tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at gynnydd o 2% yn nifer staff y Cyngor sy’n siarad Cymraeg, o gymharu â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf.
“Rydym wedi gwneud peth cynnydd, ond yn amlwg mae rhagor i’w wneud,” meddai Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor.
Ychwanega fod Ffiliffest, yr ŵyl a gafodd ei chynnal ar Fehefin 11, wedi bod yn ddathliad “gwych” o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.