Bydd pedwar actor adnabyddus yn rhoi llais newydd i ddioddefwyr hŷn sy’n goroesi cam-drin domestig ar bodlediad newydd Prifysgol Aberystwyth.

Tessa Peake-Jones (Only Fools and Horses), Maggie Ollerenshaw (Open All Hours), Siobhan Redmond (Taggart) a Peter Guinness (Tom Clancy’s Jack Ryan) sy’n adrodd straeon y goroeswyr ar Out of Sight.

Gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd Christian Gordine, Menter Dewis Choice – menter ymchwil y brifysgol – sydd wedi cynhyrchu’r podlediad sy’n rhoi llais prin i brofiadau’r grŵp hyn o bobol.

Wedi’i seilio ar ymchwil gan Fenter Dewis Choice, mae’r gyfres yn portreadu bywydau dioddefwyr hŷn, gan gynnwys pobol LHDTC+ a’r rhai sy’n byw ag anableddau.

‘Dechrau sgwrs’

Dywed Sarah Wydall, prif ymchwilydd y fenter, fod cam-drin domestig eisoes wedi’i guddio, ond pan fydd dioddefwyr dros 60 oed, maen nhw’n dod yn “anweledig”.

“Ychydig iawn sy’n hysbys am brofiadau dioddefwyr hŷn sy’n goroesi cam-drin domestig, ond caiff hyn ei helaethu gan ddiffyg adrodd yn y cyfryngau ffrwd eang, darpariaethau gwasanaeth arbenigol annigonol, sylw cyfyngedig i bolisi a rhagfarn oed ddiwylliannol o fewn y gymuned ehangach,” meddai.

Caiff Out of Sight ei ryddhau i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 15) a Mis Pride.

“Gobeithiwn y bydd Out of Sight yn dechrau sgwrs y mae mawr ei hangen am yr angen i greu mannau i bobol hŷn o bob cefndir gael rhannu ac adrodd eu straeon, ac i ystyried a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cudd sy’n wynebu rhai pobol LHDTC+ hŷn.

“Pan fyddwn yn anwybyddu profiadau a phroblemau pobol hŷn, rydym yn y pen draw yn creu hinsawdd lle na allwn, neu yn hytrach lle nad ydym yn siarad am bobol hŷn yng nghyd-destun cam-drin domestig.”

‘Cydnabod dioddefwyr hŷn’

Ychwanegodd Rebecca Zerk, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol, lle mae Menter Dewis Choice wedi’i lleoli, fod “ein dealltwriaeth ddiwylliannol, wleidyddol a thros dro o gam-drin domestig yn canolbwyntio’n bennaf ar y syniad bod dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn bennaf yn fenywod gwyn, iau mewn perthynas heterorywiol”.

“Er bod hyn yn wir, nid yw’n gadael llawer o le i unrhyw un sydd y tu allan i’r ddemograffig hon,” meddai.

“Roeddem eisiau creu podlediad yn seiliedig ar ein hymchwil a’n cyfoeth o wybodaeth a allai helpu i gyfrannu at gydnabod pobol hŷn fel dioddefwyr posibl cam-drin domestig.”

Mae’r podlediad ar gael ar wefan Out of Sight.