Mae cynlluniau’r Deyrnas Unedig i dorri cyfreithiau rhyngwladol yn gosod cynsail “eithaf peryglus”, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Mared Gwyn.

Ddechrau’r wythnos, fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth San Steffan amlinellu bil fyddai’n newid trefniadau masnachu, trethi a llywodraethiant sydd wedi’u cytuno ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.

Heddiw (dydd Mercher, Mehefin 15), fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd gyhoeddi eu bod nhw’n cymryd camau cyfreithiol o’r newydd yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil eu cynlluniau i gael gwared ar rai rhannau o’r Cytundeb Brexit.

Er bod y ddwy ochr wedi cytuno ar y Protocol, mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cydnabod nad yw’n berffaith, meddai Mared Gwyn, sy’n ymgynghorydd cyfathrebu i asiantaeth BCW ym Mrwsel ac yn arbenigo ar wleidyddiaeth Ewrop.

Fodd bynnag, mae hi’n ymddangos fel petai’r Deyrnas Unedig wedi “rhoi’r ffidil yn y to” ar drafod, meddai.

Yn ôl y Deyrnas Unedig, mae’r Protocol wedi amharu ar fasnach a threfniadau rhannu grym Llywodraeth Gogledd Iwerddon, ond yn ôl Maros Sefcovic, dirprwy-lywydd Comisiwn Ewrop, “does yna ddim cyfiawnhad gwleidyddol na chyfreithiol o gwbl dros un ochr yn newid cytundeb rhyngwladol”.

Tanseilio rheolaeth y gyfraith

Mae torri cytundebau o’r fath yn “tanseilio rheolaeth y gyfraith”, meddai Mared Gwyn wrth golwg360.

“Mae cytundebau rhyngwladol yna i’w parchu, dw i’n meddwl, mae yna gymaint o bethau, o fasnach i heddwch i gydweithio rhyngwladol, sy’n dibynnu ar gytundebau o’r fath.

“Mae llywodraeth Boris Johnson bellach, nid yn unig efo’r hyn sy’n digwydd efo’r Protocol Gogledd Iwerddon ond hefyd o bosib efo’r sefyllfa Rwanda, maen nhw’n penderfynu troi’r foch ar gyfraith ryngwladol er mwyn gallu mynd ymlaen efo polisi a rhaglenni y mae ei lywodraeth o am eu gweld yn dod yn fyw.

“Mae hi’n sefyllfa gymhleth o ran y Protocol, rydyn ni’n gwybod fod o ddim yn berffaith ond rydyn ni hefyd yn gwybod fod o’r trefniant mwyaf ymarferol oedd yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn gallu dod ato fo tra roedden nhw’n negodi.

“Dydy’r Protocol yma ddim yn un sydd wedi bod yn hawdd i gytuno arno fo. Mae o’n creu ychydig bach o rwystrau wrth fasnachu rhwng gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Mae o’n golygu bod yna archwiliadau tollau eithaf cymhleth yn gorfod cael eu cynnal yn y porthladd ym Melffast a gweddill porthladdoedd Gogledd Iwerddon.

“Mae o’n creu cur pen i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, a dyna pam fod yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud eu bod nhw’n fodlon edrych ar y problemau a dod at ddatrysiadau. Yn barod maen nhw wedi tynnu’r angen am archwiliadau ar rai nwyddau meddygol, rhai bwyd ac yn y blaen.

“Ond dydy hynny ddim yn ddigon gan y Deyrnas Unedig ac maen nhw am weld archwiliadau’n cael eu tynnu’n gyfan gwbl ar yr holl nwyddau sy’n symud mewn i Ogledd Iwerddon a sy’n aros yng Ngogledd Iwerddon.

“Y pryder yn Ewrop yw bod hynny’n peryglu diogelwch y farchnad sengl Ewropeaidd, a bod yna risg i nwyddau sydd ddim yn cydymffurfio efo safonau Ewropeaidd ddisgyn mewn i’r Undeb drwy’r ffin ar ynys Iwerddon.”

Mae Micheal Martin, Prif Weinidog Iwerddon, wedi rhybuddio y gallai newid rhannau o’r Protocol “ddadsefydlogi” gwleidyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

Goblygiadau

Yn ôl Mared Gwyn, mae yna gydnabyddiaeth ar naill ochr i’r Sianel nad ydy’r protocol yn berffaith a bod angen parhau i’w newid yn ôl yr angen.

“Ond yr hyn sydd ddim yn cael ei groesawu ym Mrwsel ydy’r ffaith bod y newidiadau yma’n cael eu gwneud rŵan gan y Deyrnas Unedig heb ganiatâd a heb drafod o gwbl efo’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl bod y Deyrnas Unedig bellach yn fodlon trafod.

“Mae yna drafod wedi bod, rydyn ni’n gwybod bod tîm Liz Truss [Ysgrifennydd Tramor San Steffan] wedi bod ym Mrwsel dros y misoedd diwethaf i drafod efo tîm Maros Sefcovic ond mae o fel petai’r Deyrnas Unedig wedi rhoi’r ffidil yn y to ar drafod ac wedi penderfynu eu bod nhw’n mynd i weithredu ar eu liwt eu hunain a heb ganiatâd Ewrop drwy dorri’r gyfraith a drwy wneud fel ag y mynnan nhw.”

Mae yna oblygiadau i hynny, yn ôl Mared Gwyn.

“Mae yna bwysau mawr ar y berthynas, rydyn ni’n gweld rŵan bod yna achos cyfreithiol, mae yna sawl achos cyfreithiol ar y gweill oherwydd eu bod nhw’n torri’u haddewidion a ddim yn cadw at yr addewidion wnaethon nhw yn y Cytundeb Brexit,” meddai.

“Mae yna oblygiadau da i enw da’r Deyrnas Gyfunol, a hefyd os ydy Ewrop yn penderfynu gwneud hynny mi fedran nhw gyflwyno mesurau i’w cosbi nhw fel sancsiynau ar fasnach, costau fel tariffau ar nwyddau yn symud i Ewrop o Brydain.

“Mae Brexit wedi gwneud masnachu gydag Ewrop yn anoddach fel mae hi, ond mae yna ffyrdd y gallai’r Undeb Ewropeaidd wneud pethau hyd yn oed yn anoddach i fusnesau ym Mhrydain. Dyna ydy realiti be’ rydyn ni’n edrych arno.

“Dydy’r Undeb Ewropeaidd ddim am danio rhyfel masnach, dydyn nhw ddim eisiau gwneud hynny. Ond os ydy pethau’n parhau yn y ffordd maen nhw’n mynd rŵan, efallai un diwrnod na fydd ganddyn nhw ddewis ond cyflwyno sancsiynau a mesurau i gosbi’r Deyrnas Unedig am yr hyn maen nhw’n ei wneud.”