Mae Cwmni Egino wedi cyhoeddi eu gweledigaeth ar gyfer datblygu adweithydd niwclear bychan cyntaf y Deyrnas Unedig yn Nhrawsfynydd.

Nod y cwmni yw cychwyn adeiladu’r adweithydd modiwlar bach (SMR) ar safle atomfa Trawsfynydd yn 2027.

Byddan nhw’n cydweithio â pherchennog y tir, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, i fwrw ymlaen â’r cynlluniau.

Cafodd Cwmni Egino ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru y llynedd “er mwyn creu swyddi cynaliadwy a hyrwyddo adfywiad cymdeithasol-economaidd drwy hwyluso datblygiad ar safle’r hen orsaf bŵer”.

Cafodd yr atomfa ei chau yn 1993, ac mae gwaith datgomisiynu ar y gweill ers 1995.

‘Nifer o fanteision’

Mae Cwmni Egino wedi croesawu Great British Nuclear, corff a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gwireddu prosiectau newydd, gan ddweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw wrth ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer Trawsfynydd.

“Mae Trawsfynydd yn cynnig cyfle heb ei ail ar gyfer gwireddu’r datblygiad SMR cyntaf yn y Deyrnas Unedig oherwydd nodweddion a threftadaeth unigryw y safle, a’r sgiliau a’r isadeiledd sydd ar gael,” meddai Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino.

“Trwy gysylltu’r her o ran diogelwch ynni gyda her sosio-economaidd, rydyn ni o’r farn y gall datblygiad yn Nhrawsfynydd arwain at nifer o fanteision.

“Yn ogystal â dod â buddion lleol, mae sgôp sylweddol i hyrwyddo’r gadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau a chreu cyfleoedd busnes yn ehangach yng ngogledd Cymru a ledled y Deyrnas Unedig.

“Byddai’r math hwn o ddatblygiad yn Nhrawsfynydd hefyd yn helpu i gwrdd ag anghenion ynni a thargedau Sero Net, a chefnogi’r agenda ‘lefelu i fyny’.”

Strategaeth

Mae ymrwymiad yn Strategaeth Diogelwch Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gafodd ei chyhoeddi ym mis Ebrill, i gyflymu’r rhaglen niwclear, gan gynnwys datblygiadau SMR.

Mae’r broses ddylunio ar gyfer technoleg SMR yn parhau, a dydy Cwmni Egino heb benderfynu pa dechnoleg yn union fydd fwyaf addas ar gyfer Trawsfynydd.

“Rydyn ni’n anelu at gynnal trafodaethau cychwynnol gyda phartneriaid technoleg posibl dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i weithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer y safle,” meddai Alan Raymant.

“Rydyn ni wedi gosod rhaglen uchelgeisiol yn seiliedig ar gychwyn y gwaith adeiladu mor gynnar â 2027. Y rheswm am hynny yw am ein bod yn cydnabod y gall buddion sylweddol ddeillio o’r cyfnod adeiladu, yn ogystal â’r cyfnod gweithredol. Gorau po gyntaf y gallwn sicrhau’r buddion hynny.

“Cyn hynny, mae llawer o waith i’w wneud, ar fyrder. Byddwn yn canolbwyntio dros y misoedd nesaf ar roi cynnig busnes llawn at ei gilydd a fydd yn amlinellu sgôp y prosiect, sut y bydd yn cael ei ddelifro a’i ariannu, a sut y gallwn sicrhau effaith bositif ar gymunedau.”

Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi cyllid i Rolls Royce adeiladu SMRs, technoleg a gafodd ei datblygu yn y 1950au ar gyfer ei defnyddio mewn llongau tanfor niwclear.

Mae’n debyg y byddai adweithydd Rolls Royce, os mai dyna’r dechnoleg fyddai’n cael ei dewis ar gyfer Trawsfynydd, yn cynhyrchu 450MW o drydan, sy’n fwy na chynnyrch hen orsaf Magnox Trawsfynydd, a’r un maint ag un o hen adweithyddion mawr Wylfa.

‘Potensial’

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, mae gan safle Trawsfynydd lawer iawn o botensial.

“Fe sefydlwyd Cwmni Egino er mwyn cyflawni’r potensial hwnnw. Mae’r tîm bellach yn ei le ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo,” meddai.

“Bydd datblygiad safle Trawsfynydd yn y dyfodol yn dod â budd i’r gymuned leol a rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach, gan greu swyddi a chyfleoedd o ran sgiliau.

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol a all gyflawni buddion economaidd i ogledd orllewin Cymru a thu hwnt.”

Barn Plaid Cymru?

Mae barn Aelodau Plaid Cymru ar ynni niwclear yn gymysg, ond mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn cefnogi’r datblygiad arfaethedig.

“Rwy’n croesawu cynlluniau Cwmni Egino i ddatblygu’r safle trwyddedig niwclear yn Nhrawsfynydd,” meddai.

“Rwyf o’r farn y dylai Cymru chwarae rhan flaengar ac uchelgeisiol yn natblygiad technolegau ynni carbon isel mewn byd cydgysylltiedig lle bydd fforddiadwyedd a diogelwch ynni yn gynyddol bwysig.

“Edrychaf ymlaen at y swyddi o ansawdd a’r cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd ar gyfer Meirionnydd a Gwynedd sy’n gysylltiedig â’r cynlluniau hyn.

“Mae cyflogau yn fy etholaeth i ymhlith yr isaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae datblygu’r economi ar gyfer y dyfodol yn gofyn am ystod o swyddi ar gyfer pobl ifanc, yn ogystal â chyfleoedd o ran sgiliau a hyfforddiant.”

Fodd bynnag, mae Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd, yn gwrthwynebu ynni niwclear.

Cyn etholiadau’r Senedd y llynedd, dywedodd wrth Golwg nad yw’n cefnogi ynni niwclear ac nad oes yna ddim rheidrwydd i gael ynni niwclear erbyn hyn.

“A hynny oherwydd bod digon o adnoddau naturiol gyda ni, yn enwedig yn Nwyfor Meirionnydd, i fanteisio arnyn nhw,” meddai bryd hynny.

“Ac o ran y swyddi yn [Nhrawsfynydd], mae’r datgomisynu yn mynd i fod yn [para] gydol oes erbyn hyn, sy’n mynd i sicrhau’r swyddi sydd yno ar hyn o bryd am genhedlaeth arall.

“Felly mae cyfle i ni nawr i fuddsoddi mewn ynni cymunedol, mewn prosiectau lleol, er mwyn sicrhau swyddi lleol sydd yn cloi’r pres yna yn ein cymunedau.”

Polisi cenedlaethol Plaid Cymru yw gwrthwynebu ynni niwclear, fel dywedodd Adam Price yng nghynhadledd y Blaid eleni.

Ond fe wnaeth e gydnabod fod y blaid yn caniatáu trafodaethau a’u bod nhw’n cydnabod fod yna wahanol farn ar y mater.