Mae adroddiad ynghylch ymchwiliad i neges hiliol ar wefan gymdeithasol Facebook gan gyn-gynghorydd sir wedi cael ei gyhoeddi gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr ombwdsmon maes o law, ac mae’n cynnig trosolwg o’r ymchwiliad i gwynion ynghylch Paul Dowson, oedd yn arfer bod yn Gynghorydd Sir Penfro yn ward Doc Penfro.

Cafodd gwrandawiad pwyllgor safonau ei gynnal ynghylch y mater yn gynharach y mis yma, ac fe gytunodd aelodau i geryddu Paul Dowson, gan ychwanegu y bydden nhw wedi ystyried yn ofalus a ddylid ei wahardd dros dro pe bai e wedi cael ei ailethol.

Cafodd “nifer o gwynion” eu gwneud i’r Cyngor a swyddfa’r Ombwdsmon ynghylch neges Facebook yr oedd Paul Dowson wedi’i cyhoeddi fis Mehefin 2020 yn ymwneud â’r mudiad Black Lives Matter, ac fe gafodd ei thrin fel neges y gellid ei hystyried yn un hiliol ac y byddai’n gallu niweidio enw da’r Cyngor a swydd cynghorydd.

Ymchwiliad

Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y neges wedi’i phostio “er mwyn codi pryderon am benderfyniad y Cyngor i oleuo Neuadd y Sir i gefnogi Black Lives Matter”.

“Dywedodd yr Aelod ei fod yn ystyried bod neges yn cwympo o fewn ei hawl i ryddid barn oherwydd doedd e ddim yn credu ei fod e wir wedi sarhau neb, a bod y cwynion a wnaed yn ei erbyn wedi’u hysgogi gan wleidyddiaeth,” meddai’r adroddiad.

“Derbyniodd yr Ombwdsmon fod gan yr Aelod yr hawl i gwestiynu penderfyniad y Cyngor i gefnogi Black Lives Matter, fodd bynnag roedd yr iaith a gafodd ei defnyddio gan yr Aelod yn sarhaus a thu hwnt i’r hyn a ddisgwylid gan gynghorydd mewn trafodaeth wleidyddol.

“Doedd yr Aelod heb fanteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth na hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol.”

Ymateb yr Ombwdsmon

Cafodd adroddiad llawn yr Ombwdsmon ei gyflwyno i bwyllgor safonau’r Cyngor, ond dydy e ddim yn adroddiad cyhoeddus, meddai llefarydd ar ran yr Ombwdsmon.

Mae’r Ombwdsmon wedi croesawu penderfyniad y pwyllgor.

“Gobeithir y bydd gwersi hefyd yn cael eu dysgu o’r achos hwn, ac y bydd yn hybu safonau ymddygiad uchel gan aelodau etholedig yn eu swyddi cyhoeddus, o fewn y Cyngor a ledled Cymru,” meddai.

Dywedodd Paul Dowson wrth Wasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fod nad oedd sôn am Facebook mewn cwynion yn ei erbyn, a bod yna anghysondeb mewn cofnodion hyfforddiant, ac fe ychwanegodd ei fod e eisiau i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus.

“Ro’n i wedi datgan ynghynt na fyddwn i’n cymryd rhan mewn gwrandawiad preifat, ac fe ddaeth yn glir i fi oherwydd faint o dystiolaeth oedd gen i oedd yn profi fod y gŵyn yn hollol ragfarnllyd fod y pwyllgor wedi dewis aros yn breifat,” meddai.