Mae gofyniad gweithwyr rheilffyrdd am dâl teg yn ystod argyfwng costau byw yn un “hollol ddilys”, yn ôl Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.

Dim ond llond llaw o drenau sydd wedi bod yn teithio yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 21), wrth i filoedd o weithwyr fynd ar streic.

Mae aelodau undeb yr RMT yn galw am well cyflog ac amodau gwaith, ac mae Luke Fletcher yn gobeithio y bydd y streic hon yn rhoi anogaeth a hyder i weithwyr mewn sectorau eraill alw am dâl teg.

Buodd Luke Fletcher ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yng Nghaerdydd yn dangos solidariaeth gyda’r streicwyr fore heddiw, ac mae Luke Fletcher yn dweud bod yna gefnogaeth dda.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig dangos solidariaeth mewn sefyllfaoedd fel hyn ble mae gweithwyr yn gofyn am dâl teg, a gwell amodau gwaith. Pan dydyn nhw ddim yn cael e, dw i’n credu bod rhaid i ni fel cymdeithas gefnogi nhw,” meddai wrth golwg360.

“Os mae’r gweithwyr yn yr RMT yn ennill, yna mae pawb yn ennill.

“Mae hyn yn rhoi precedent i weithwyr eraill sicrhau gwell tâl ac amodau.

“Be’ dw i eisiau gweld ydy Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] yn rhoi be’ mae’r gweithwyr yn ofyn am, sef y tâl teg a hefyd gwell amodau gwaith.

“Pan mae inflation yn cyrraedd 10%, pan mae teuluoedd yn stryglo i fwydo eu teuluoedd, dw i’n credu bod e’n hollol deg i unrhyw weithwyr, nid jyst gweithwyr yn RMT ond gweithwyr ar hyd y wlad, i ofyn am well tâl.

“Dw i’n meddwl bod hwn yn symptom o’r argyfwng costau byw, bod gweithwyr yn teimlo mor gryf am fynd allan i gael tâl gwell, amodau gwell, sicrwydd gwell yn eu gwaith… mae e dros y wlad.

“Dw i’n gobeithio y bydd y streic hon yn rhoi ychydig o anogaeth a hyder i weithwyr mewn sectorau eraill, y dylen nhw fod yn gofyn am well tâl ac amodau.”

‘Demoneiddio’

Wrth gyfeirio at y wasg yn Lloegr, dywed Luke Fletcher bod yna rywfaint o “ddemoneiddio” gweithwyr sy’n gofyn am well tal ac amodau, sy’n “beth trist”.

Bydd gweithwyr yn streicio ddydd Iau (Mehefin 23) a dydd Sadwrn (Mehefin 25) hefyd.

Daeth adroddiadau i’r amlwg heddiw yn The Independent fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cael gwared ar y capiau ar dâl bonws gweithwyr.

“Mae Rhif 10 yn wirioneddol ystyried codi’r cap ar dâl bonws bancwyr, ond ar y llaw arall yn demoneiddio gweithwyr sydd ar dâl gwael ac yn cael hi’n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd am ofyn am yr un peth, fwy neu lai… tâl gwell,” meddai Luke Fletcher.

“Fy nghwestiwn i fyddai, pam ei bod hi’n iawn i fancwyr ofyn am fwy o arian ond pan mae gweithwyr yn gofyn am fwy o arian, maen nhw’n cael eu gwrthod yn gyson ac yn clywed y dylen nhw wybod eu lle.

“Mae’n gwbl amharchus i waith caled gweithwyr rheilffordd, yn ogystal â gweithwyr dros y wlad, ar adeg pan maen nhw wirioneddol yn stryglo.”

Cefnogaeth

Yn ôl Luke Fletcher, mae mwy o gefnogaeth ymysg y cyhoedd tuag at y streic na’r hyn sy’n cael ei bortreadu.

“Dw i’n credu mae lot o bobol yn gefnogol o hyn, maen nhw’n gweld pa mor bwysig yw’r bobol sy’n gweithio ar y rheilffyrdd. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud,” meddai.

“Mae lot o bobol yn gweld yr hyn mae’r RMT wedi gofyn amdano fel rhywbeth cwbl ddilys, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw yma.

“Mae gofynion RMT yn gwbl deg, mae hi’n gyfnod anodd iawn gyda’r argyfwng costau byw. Rydyn ni mewn pwynt eithaf pwysig efo’r streiciau dw i’n meddwl, os fyddan nhw’n llwyddiannus fydd e’n beth da, nid yn unig i’r sector rheilffyrdd, ond i weithwyr dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”

‘Dim dewis’

Wrth i’r trafodaethau rhwng RMT a Network Rail a Train Operators fethu ddoe (dydd Llun, Mehefin 20), dywedodd RMT nad oedd ganddyn nhw ddim dewis ond gweithredu yn sgil toriadau i swyddi, amodau, tâl a phensiynau.

“Mae RMT yn cefnogi’r ymgyrch dros gytundeb teg i’r holl weithwyr yn yr argyfwng costau byw, ac mae’r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch ehangach sy’n golygu bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus cael eu hariannu’n iawn a bod rhaid i weithwyr gael eu talu’n deg ag amodau da,” meddai llefarydd.

“Mae RMT ar gael ar gyfer trafodaeth fyddai’n datrys yr anghydfod ac yn sicrhau bod ein system drafnidiaeth yn gallu gweithredu heb amhariadau.”

‘Arwain drwy guddio’

Mae Boris Johnson yn dweud bod y streiciau’n “gwaethygu pethau yn ddiangen”, tra bod Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi rhybuddio ei gabinet rhag ymuno â’r streiciau.

Er hynny, mae dau aelod o’i gabinet wedi ymuno â’r picedau, ynghyd â sawl Aelod Seneddol arall nad ydyn nhw’n rhan o’r Cabinet, gan gynnwys Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon.

Mae safbwynt y Blaid Lafur wedi cael ei feirniadu gan undeb Unite, gyda’r ysgrifennydd cyffredinol yn dweud bod y penderfyniad yn “adrodd cyfrolau”.

“Cafodd y Blaid Lafur ei ffurfio gan yr undebau llafur ac rydyn ni’n disgwyl i Aelodau Seneddol Llafur amddiffyn gweithwyr, drwy eiriau a thrwy weithredoedd,” meddai Sharon Graham.

“Mae cynghori Aelodau Seneddol Llafur i beidio â bod ar linellau piced gyda gweithwyr yn adrodd cyfrolau.

“Dydych chi ddim yn arwain drwy guddio. Does neb yn parchu hynny. Mae hi’n amser penderfynu ar ba ochr ydych chi. Gweithwyr neu gyflogwyr gwael?”

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatrys yr anghydfodau.