Mae aelodau o Sefydliad y Merched Cymru’n gobeithio tynnu sylw at yr anghydraddoldeb mewn diagnosis awtistiaeth ac ADHD rhwng menywod a dynion.

Fe wnaeth aelodau’r sefydliad bleidleisio i gefnogi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol am anhwylder sbectrwm awtistig (ASD) ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogi (ADHD) mewn menywod yn ddiweddar.

Fel yr ysgrifenna Natalie Jones, colofnydd newydd Golwg, mae astudiaethau niferus wedi arwain arbenigwyr i amcangyfrif fod y gymhareb o ran gwrywod/menywod awtistig yn amrywio o 3:1 i 16:1.

Profiad cyffredin merched awtistig yw eu bod yn aml yn cael cam-ddiagnosis fel rhai “pryderus”, yn enwedig pan nad yw eu symptomau yn dilyn y syniadau nodweddiadol am awtistiaeth.

‘Codi ymwybyddiaeth’

                    Eirian Roberts

Mae Sefydliad y Merched yn awyddus i ddefnyddio eu rhwydwaith i godi ymwybyddiaeth o symptomau ASD ac ADHD, meddai Eirian Roberts, cadeirydd y mudiad yng Nghymru.

“Dydy pobol efo ADHD ac Awtistiaeth ddim yn cael eu diagnosio tan yn hwyr mewn bywyd yn aml iawn, ac mae lot o’r aelodau’n meddwl bod hyn yn bwysig iawn,” meddai Eirian Roberts, sy’n byw yn Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy, wrth golwg360.

“Maen nhw’n gobeithio tynnu sylw at hyn, fel eu bod nhw’n cael eu diagnosio yn gynt.

“Mae hi’n cymryd hir iddyn nhw gael triniaeth a neb yn cymryd sylw ohonyn nhw, mae yna wahaniaeth mawr rhwng fel mae merched a dynion yn cael eu trin. Maen nhw’n gweld y symptomau yn yr hogiau yn gynt na’r merched, fel dw i’n deall.

“Dydy pobol ddim yn sylweddoli [ar gyflyrau fel Awtistiaeth] gan fod merched yn tueddu i fod yn fwy distaw yn aml iawn, dydyn nhw ddim yn arddangos y symptomau mor glir.”

‘Eilradd’

Eglura Eirian Roberts eu bod nhw’n awyddus i ddefnyddio eu cysylltiadau i ddechrau trafodaeth yn lleol.

“Mae Sefydliad y Merched yn lot fawr o gymunedau yn y wlad a’r gobaith ydy defnyddio eu rhwydweithiau nhw i gyrraedd lot o bobol ymhob rhan o’r wlad,” meddai.

“Mewn pentref bach fel lle dw i’n fan hyn, rydych chi’n gallu tynnu sylw at bethau fel hyn drwy fudiad fel Sefydliad y Merched.

“Mae Sefydliad y Merched wedi bod yn tynnu sylw at broblemau mae merched yn eu cael ar hyd y blynyddoedd, eu bod nhw ychydig bach yn eilradd felly mae hi’n bwysig eu bod nhw’n cael sylw gymaint â mae’r dynion yn ei gael.

“Mae lot fawr o’r ymgyrchoedd mae Sefydliad y Merched wedi’i wneud efo iechyd ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn bwysig, a hwn ydy’r un diweddaraf. Mae hwn yn eto yn un pwysig iawn.”

‘Gofod mwy cynhwysol’

Roedd y cynnig, a gafodd ei basio yng Nghyfarfod Blynyddol Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yn Lerpwl, yn cynnwys galw ar lywodraethau a chyrff ariannu i ariannu ymchwil i’r cyflyrau mewn menywod, a chymryd camau i wella’r broses o wneud diagnosis i fenywod a merched hefyd.

Ychwanega cadeirydd Sefydliad y Merched dros y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n “bles iawn” â’r canlyniad.

“Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ar fater pwysig nad yw’n cael digon o gyhoeddusrwydd yn aml,” meddai Ann Jones, sy’n dod o Landdewi Brefi.

“Gwyddom fod menywod a merched awtistig a’r rhai ag ADHD wedi cael eu hesgeuluso ac nid yw llawer ohonynt yn cael y diagnosis, ac felly’r cymorth, sydd ei angen arnynt. Credwn fod y diffyg ymwybyddiaeth a chefnogaeth hwn yn fater o gydraddoldeb rhywiol a byddwn yn ymgyrchu i roi diwedd ar y rhaniad annerbyniol hwn rhwng y rhywiau.

“Byddwn yn rhoi ffocws mawr ar godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â gweithio i sicrhau bod Sefydliad y Merched yn gefnogol ac yn groesawgar i fenywod awtistig a menywod ag ADHD.

“Rydym am i bob merch allu bod yn rhan o Sefydliad y Merched, a byddwn yn ymdrechu i wneud Sefydliad y Merched yn ofod mwy cynhwysol fyth i fenywod awtistig a’r rhai ag ADHD.”

Merched ac awtistiaeth

Natalie Jones

“Bu Leanne Jones yn treulio nosweithiau yn ceisio chwalu meddyliau poenus ei merch fach, wrth iddi orwedd yn methu cysgu ac yn beichio crio”