Mae gan gylchgrawn Golwg golofnydd newydd ac rydym yn codi’r wal dalu – pay wall – ar ei cholofn gyntaf er mwyn i bawb gael blas arni.
Fe gafodd Natalie Jones ei magu yn y gogledd a bellach mae hi’n magu teulu yn Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin. Mae yn athrawes gydag MSc mewn Seicoleg ac mae yn aelod o Gyngor Hil Cymru.
Testun ei cholofn gyntaf yw’r heriau sy’n wynebu merched awtistig a’u rhieni…
Roedd fy chwaer yng nghyfraith wedi bod yn gofyn cwestiynau, yn chwilio am “y dillad a’r gweithgareddau cywir”, ac yn cael nosweithiau digwsg gyda’i merch.
Bu Leanne Jones yn treulio nosweithiau yn ceisio chwalu meddyliau poenus ei merch fach, wrth iddi orwedd yn methu cysgu ac yn beichio crio. Nid oedd yn gallu mynd i’r ysgol am bedwar mis, oherwydd yr ofn a’r trallod. Yn y diwedd, ar ôl gwario dros £1,500 ar apwyntiadau iechyd preifat, daeth y diagnosis a oedd yn gwneud synnwyr ac yn cynnig cymorth defnyddiol – awtistiaeth!
Mae astudiaethau niferus wedi arwain arbenigwyr i amcangyfrif bod y gymhareb o ran gwrywod/menywod awtistig yn amrywio o 3:1 i 16:1 (Autism.Org, 2022).
Profiad cyffredin merched awtistig yw eu bod yn aml yn cael eu cam-ddiagnosio fel rhai “pryderus”, yn enwedig pan nad yw eu symptomau yn dilyn y syniadau nodweddiadol am awtistiaeth.
Mae’r symptomau yn amrywio’n sylweddol, ac mae merched i’w gweld yn fwy tebygol o guddio rhai o’r heriau cymdeithasol a achosir gan awtistiaeth. Felly, er y gall merched awtistig fod yr un mor anghyfforddus mewn sefyllfa gymdeithasol â’u cyfoedion gwrywaidd, maen nhw yn tueddu i ddod o hyd i strategaeth sy’n atal eraill rhag sylwi gymaint y maen nhw yn dioddef.
Mae fy mhrofiad o weithio ym myd addysg yng Nghymru wedi fy ngadael yn teimlo bod y cymorth i blant ar y sbectrwm ASD (Autism Spectrum Disorder) mewn ysgolion prif ffrwd yn druenus o annigonol.
Disgwylir i blant awtistig ddilyn y rheolau a chydymffurfio heb unrhyw ffwdan. Ar adegau maen nhw yn cael eu cosbi drwy gael eu cadw yn y dosbarth adeg amser chwarae, ac yn derbyn marciau ymddygiad am fod yn “amharod” i gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol – er bod gwybodaeth neu amheuaeth o nodweddion awtistig.
Mae merched awtistig yn aml yn cael eu labelu fel rhai sydd yn “chwilio am sylw” neu yn “ddramatig”. Un o’r problemau mawr yw na all merched sydd wedi gallu cuddio symptomau yn gynnar, ymdopi â gofynion cymdeithasol cynyddol wrth iddynt fynd yn hŷn, gan arwain at ffurfio barn ymysg oedolion a chyfoedion sy’n arwain at wadu’r gefnogaeth y maen nhw yn ei haeddu.
Yn wyddonydd gyda PhD mewn Biocemeg ac yn awdur sydd wedi trafod ei awtistiaeth yn gyhoeddus, mae Dr Camilla Pang yn un sydd yn dweud iddi ddynwared ei chyfoedion er mwyn cuddio ei chyflwr.
Mae problemau eraill o ran diagnosis yn cynnwys camsyniadau bod pawb sydd gydag awtistiaeth yn methu deall coegni, yn methu gwneud cyswllt gyda llygaid, yn methu dangos empathi ag ati.
Gwyddom mai sbectrwm yw awtistiaeth, ond drwy dystiolaeth empirig mae’n dod yn gliriach bod awtistiaeth yn fwy o sbectrwm cylchol, ac nid oes rhestr wirio glogyrnaidd ar gyfer arwyddion o awtistiaeth.
Rhoi’r gorau i chwilio am help
Mae rhai rhieni yn rhoi’r gorau i chwilio am gymorth i’w plentyn gan nad ydyn nhw’n deall ble i fynd am help, ac yn teimlo eu bod nhw’n cael eu trosglwyddo’n ôl ac ymlaen rhwng eu hysgol a’u meddyg teulu. Mae eraill yn gwrthod cael diagnosis am nad ydynt am “labelu” eu plentyn. Mae’n bwysig bod rhieni’n deall mai rôl yr ysgol yw darparu gwybodaeth am ymddygiad yn yr ysgol i gefnogi cais y rhieni am asesiad gyda’u meddyg teulu, ond nid ydynt yn cael gwneud diagnosis.
Yn ôl Llywodraeth Cymru (2019): “Dylai plant a phobl ifanc gael asesiad [am awtistiaeth] o fewn 26 wythnos i gael eu cyfeirio”.
Fodd bynnag, dywed rhieni ei bod yn cymryd dros ddwy flynedd i gael asesiad mewn gwirionedd!
Yn ogystal â defnyddio offer diagnostig, rhaid i blant gael eu hasesu gan arbenigwr ASD. Bwriad y broses asesu a diagnosis yw helpu i greu cynllun ar gyfer cymorth priodol. Er gwaethaf y rhestrau aros hir, gall rhieni hefyd gysylltu â gwasanaeth iechyd meddwl yr NHS i blant a phobol ifanc, ac elusennau fel Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ac AP Cymru. Mae yna hefyd sefydliadau llawr gwlad yng Nghymru fel Coed Dylan yn y de a Gororau Gofod yn y gogledd sy’n cynnig cefnogaeth a darpariaeth sy’n galluogi unigolion i archwilio agweddau cadarnhaol o’u hawtistiaeth.
Oes! Mae yna rhai!
A dyma gyfweliad wnaed yn 2020 gyda Natalie Jones, i chi gael gwybod mwy amdani…
Natalie Jones