Ydych chi’n cofio rhywun yn dweud rhywdro nad oedd yna dalent yng Nghymru? Rhywbeth i’w wneud efo pennod o Britain’s Got Talent yng Nghaerdydd os dw i’n cofio’n iawn. Aeth pawb, yn naturiol, i dop caetsh a phrysuro i bwysleisio fod y talent Cymreig i gyd yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos honno.