Bu dipyn o gwyno’n ddiweddar am gyflwr arholiadau lefel A Cymru, diolch i ymdrechion rhyfeddol Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, o dan ofal ei Brif Weithredwr, Ian Morgan.

Yn wir, derbyniwyd sylw i gamgymeriadau’r corff yn nhudalennau’r Daily Mail, lle nodwyd: ‘Blundering exam chiefs miss out four pages of questions from Shakespeare exam leaving confused A-level pupils in tears.’