Mae polisi’r llywodraeth bresennol o anfon ffoaduriaid i’w prosesu a’u setlo yn Rwanda yn erchyll ac annynol. Yn anghyfreithlon hefyd, o bosibl, dan gyfraith ryngwladol.

Mae’r llywodraeth yn masnachu pobl, yn troi cefn ar ei chyfrifoldebau fel un o wledydd cyfoethog y byd i amddiffyn y tlotaf, yn dwyn gwarth ar bawb sy’n byw yn y Deyrnas honedig Unedig ’ma.

Heblaw am hynny, does gen i ddim geiriau.