Ers iddo fe glywed, ma’ Hywel ni fel blodyn sydd heb ga’l dŵr. Mae e ’di bod yn aros am yr haf ers amser maith, yn aros am y dyddie hir, poeth, hyfryd, ond nawr bo’ nhw ’ma, mae e fel tase fe’n gwywo. Fel tase’r ochenaid ollyngodd e’n chwa o dristwch pan glywodd e fod Phil wedi mynd, gan adael mwy na dim ond anadl mas o’i gorff e.
O’dd Hywel yn arfer whare rygbi ei hunan, pan gwrddes i â fe i ddechre. Chi’n galler gweud ar ei glustie fe hyd heddi! A’th e â fi i Barc y Strade ar ein trydedd dêt, a fi’n cofio edrych arno fe’n syllu mas dros y ca’ rygbi, ei wyneb e’n ole i gyd fel ’tae e’n galler gweld y nefo’dd. O’dd Phil Bennett yn whare’r diwrnod ’na. Yffach o foi yw Phil! wedodd Hywel, ac ofynnes i, Ti’n nabod e de? A fi’n cofio Hywel yn troi ei wyneb ata i a gwenu a gweud, Soi ’di cwrdd â fe, nagw, ond ma’ pob Cymro da yn nabod Phil Bennett nagyn nhw?
Syrthies i mewn cariad ’da rygbi yr un pryd â syrthies i mewn cariad ’da Hywel – O chi ffili cael un heb y llall, a rygbi’n ran mor allweddol ohono fe â’i goes neu ei fraich. Pan ddo’th y plant, o’dd yr ymweliad cynta’ i’r Strade’n teimlo’n bwysicach i ni na’r bedydd yn y capel, a Phil, y dieithryn caredig ’ma oedd yn arwr i ni i gyd, yn teimlo fel tad bedydd answyddogol i’r tri plentyn. Yn esiampl iddyn nhw wrth iddyn nhw dyfu – Cofiwch chi Phil, bois – Ma’ ddi’n bosib newid y byd a neud gwahanieth mawr ond dala i fod yn berson caredig, diymhongar. Ein teulu ni yw’r Sgarlets.
Ma’ ddi’n boeth yn yr ardd nawr – Ma’ Hywel mas ’na, y papur newydd ar y bwrdd o’i flaen e a’r pennawd prudd yn nodi’n colled ni. Fi’n mynd â dishgled mas ’na, ac yn gweld y ddeigryn sydd wedi dianc mas o dan sbectol haul Hywel. Ni’n ishte yn nhawelwch yr haf hiraethus, popeth yn teimlo’r mymryn lleia’n wahanol nawr.
‘Fi jest yn bod yn dwp,’ medde Hywel, yn tynnu ei sbectol am eiliad fach i sychu ei ddagre. ‘Do’n i ddim hyd no’d yn ei ’nabod e.‘
‘Ond o’dd pob Cymro da yn nabod Phil Bennett, nago’n nhw?’ fi’n ateb, pob atgof mor lliwgar â’r haf.