Ma’ raid ifi gyfadde, ar ôl colli tipyn o arian wrth i Ewro 2020 gael ei ganslo’r tro cynta’, a gwario mwy fyth ar fynd i Azerbaijan ar gyfer y twrnament yn 2021, fe wnes i addo i fi fy hun y bydden i, o’r diwedd, yn dadflaenoriaethu dilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol ryw ychydig. Ma’ plant bach ’da fi, dw i yn fy ffortis, a dw i ’di cal mwynhau cyfnod mwya’ llewyrchus y tîm, a hynny mewn steil yn 2016. “Ai i Azerbaijan” medde fi wrth fy hun llynedd “a dyna ni wedyn… stop”.