Nid dweud celwydd ac wedyn gwadu bod yna reswm dros ddweud celwydd ydi’r unig batrwm amlwg sydd i’w weld yn San Steffan y dyddiau yma.

Mae yna batrwm arall, sydd yr un mor ddifrifol… a dyma fo: dyfeisio slogan, wedyn dyfeisio ‘strategaeth’ i ffitio’r slogan gan wneud yn siŵr nad ydi honno’n ddim ond amrywiadau ar yr un slogan.