Mae’r fam 44 oed yn byw yn Sanclêr, Sir Gâr, ac i’w gweld yn cyflwyno eitemau ar ‘Heno’…

Pa fath o eitemau fyddwch chi’n cyflwyno ar Heno?  

Eitemau am bobl ddu yng Nghymru, fel y chwaraewr rygbi Billy Boston o Tiger Bay. Roedd e’n chwaraewr rygbi gwych, ac fe aeth o i Wigan i chwarae achos doedd o ddim yn cael cyfle yn y timau yng Nghymru.

Wnaeth o erioed chwarae dros Gymru, er bod o’n un o’r goreuon mae’r byd wedi’i weld.

Fe sgoriodd o 571 o geisiadau yn ystod ei yrfa.

 

Beth arall ydych chi’n ei wneud?

Dw i’n hyfforddi i fod yn athrawes Gymraeg ac yn gwirfoddoli i Race Council Cymru yn ystod y gwyliau ysgol.

Rydw i’n coginio, yn mynd am dro efo’r ci – dw i’n eitha’ boring!

Dw i wedi tyfu tomatos yr Haf yma, a hwnna ydy’r uchafbwynt o’r Haf – cael dwy lond bowlen o domatos o’r ardd!

 

Pam ydach chi eisiau bod yn athrawes?

Dw i wedi bod yn gweithio mewn ysgolion ar ôl gwneud gradd Seicoleg, fel engagement and learning mentor, yn Sir Benfro’r rhan fwyaf.

Ac roeddwn i wedi siomi fod gymaint o blant Cymraeg ddim eisiau siarad Cymraeg ac yn gweld y wers yn ddiflas.

Wnaeth hynna wneud i mi ffedwl: ‘Pam tydyn nhw ddim eisiau siarad iaith eu hunain?’

Ac hefyd, wnes i ddim mwynhau ysgol uwchradd fy hun… a dw i’n meddwl roeddwn i jesd yn teimlo cyfrifoldeb i wneud ysgol uwchradd yn fwy o hwyl, a jesd i fod yna i’r plant sydd dim yn hoffi ysgol.

 

Beth oedd yn bod ar yr addysg gawsoch chi?

Roeddwn i’n gwneud yn dda yn fy ngwersi, ond roeddwn i’n unig iawn, ddim yn un o’r rhai poblogaidd.

Ro’n i’n dawel – ddim fel ydw i nawr, yn clebran.

Ond adeg yna roeddwn i’n ddistaw ac yn ymwybodol bo fi’n wahanol – doedd neb arall mor dywyll â fi yn yr ysgol.

Wnes i ddim cael hiliaeth aggressive na dim byd, ond mi oedd pobol yn cymryd y mic o gwallt fi. Dw i’n cofio un boi yn cau drws yn fy ngwyneb i a dweud: ‘Cau drws ar y Saeson’.

A wnes i ddim hoffi hynna. Wnes i ddweud: ‘English, Welsh, Jamaican!’

Ond mae pethau wedi newid yn aruthrol – roeddwn i’n mynd i’r ysgol gyda plant oedd erioed wedi gweld pobol ddu o’r blaen, dim ond wedi gweld pobol ddu ar y teledu.

 

Beth mae’r meibion yn feddwl o’r ffaith fod mam am fod ar y teledu?!

Maen nhw wrth eu boddau!

Mae’r un fengaf, Marley, yn mynd yn flin os ydy o’n clywed am hilaeth, a’r llall, Cian, mor laid back, too cool for school. Fel: ‘O ie, neis, mam ar y teledu.’

 

Beth yw eich ofn mwya’? 

Sa i’n hoffi germs, so mae’r bloody covid yma yn nightmare i fi!

 

Sut brofiad oedd brwydro canser?

Roeddwn i’n gorwedd yn gwely ar Ionawr y cyntaf, 2019, a wnes i ddarganfod lwmpyn ar fy mron…

Gesh i biopsy, a wnaethon nhw ddarganfod canser… ond roeddwn i mor lwcus. Roedd o’n un sy’n tyfu yn araf, ac roedden ni wedi ffeindio fe yn eithaf buan.

Ges i syrjeri a radiotherapy, ond dim chemo. A dw i’n dal i gymryd cyffuriau, a does dim byd yna rŵan medden nhw.

 

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dim digon, boi! Mynd â’r ci am dro… ac ar ôl gweld fy hun ar Heno, dw i wedi gweld bod rhaid i fi wneud rhywbeth fwy serious!

 

Beth sy’n eich gwylltio?

Sa i’n hoffi bwlis.

 

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Anthony Hopkins – mae o’n edrych yn nyts, ond yn ddoeth hefyd. Fysa fo ddim yn boring.

A Betty Campbell, y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru. Os fysa Anthony Hopkins yn ddrwg, fysa hi yn ei roid o yn ei le!

Ac i gael m’bach o ganu ac ymlacio, Bob Marley.

 

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Môr-leidr… wnes i ennill cystadleuaeth yn y dafarn leol, ar ôl gwisgo fyny fel Tia Dalma yn Pirates of the Caribbean.

 

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Dw i’n cofio bod ym Mhwllheli un diwrnod, ac roedd hi newydd ddechrau bwrw eria.

Roeddwn i’n cerdded lawr allt fach, a wnes i lithro ar yr iâ. Wnes i rwygo fy nheits a doeddwn i methu cerdded yn deidi.

 

Beth yw’r gwyliau gorau i chi fwynhau?

Lanzarote gyda’r plant.

 

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Os dw i’n teimlo fy mod i wedi ypsetio rywun, sa i’n cysgu.

 

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Lady petrol – gwin.

 

Beth ydych chi’n ddarllen?

Dw i wedi bod yn darllen am y Mabinogion. Dw i ddim yn teimlo fy mod i’n gwybod digon. Yr unig stori dw i’n gofio ydy’r un am y brenin Math a’r clustiau ceffyl.

 

Beth yw eich hoff air?

Bendigedig.

 

Sut le yw Sanclêr?

Mae hi’n dref, ond yn teimlo fel pentref. Mae lot o gaeau a gwartheg godro yma.

Ryda ni yn gallu mynd am dro i’r goedwig neu’r traeth.

 

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd? 

Mae yn rhaid i mi ddweud y gŵr, neu fydd o’n gadael fi!

Gawson ni ein sws gyntaf yn [clwb nos] yr Octagon [Bangor].

Roedd [o fyny yn y gogledd] yn chwarae rygbi i Hwlffordd yn erbyn Llangefni ar y pryd, yn 2005.

 

Beth yw’r parti gorau i chi fwynhau?

Ein parti priodas yn 2007 yn Nhalacharn. Roedd tîm rygbi Hwlffordd i gyd yna ac roedden nhw wedi cael cwrw [Jamaican] Red Stripe i fewn i ni. Lyfli!