Roeddwn i’n gwrando ar y radio ychydig ddyddiau yn ôl – yn obeithiol am ryw stori fach joli ganol yr ych a fi. Roedd y cyflwynwyr yn trafod cau lleoliadau Cineworld ac wrth wrando roeddwn yn amau mai cychwyn patrwm oedd hyn. Awgrymodd un ohonynt fod yr oes wedi newid ac nad oedd angen i ni adael ein cartrefi bellach i wylio ffilm. Sgrin deledu 50 modfedd yn eich ystafell fyw ac felly’r profiad yn medru dod atoch chi.