Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

The Years gan Annie Ernaux. Dwi’n araf bach yn gweithio’n ffordd trwy bob llyfr ganddi sydd mewn cyfieithiad. Mae’i llyfrau hi’n aml yn gwneud i mi deimlo fel y mae rhai Kate Roberts yn ei wneud: mae llyfrau’r ddwy fel ymdrech ingol i geisio cofnodi popeth sy’n ddiflanedig cyn iddyn nhw fynd yn angof.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd